Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Cafodd dros 30 o bobl eu harestio yn ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yr wythnos ddiwethaf fel rhan o ymgyrch plismona dwys.
Mae Ymgyrch Chirk yn cynnwys diwrnodau o weithredu lle caiff unigolion dan amheuaeth a'r rhai sy'n destun apeliadau chwilio eu targedu er mwyn eu rhoi yn y ddalfa.
Ar y diwrnod Ymgyrch Chirk diweddaraf, a gynhaliwyd ddydd Gwener 30 Ionawr, cafodd cyfanswm o 33 o bobl eu harestio.
Roedd y rhain yn cynnwys 14 o arestiadau am droseddau trais domestig, yn ogystal â nifer o unigolion a oedd wedi cael eu galw yn ôl i'r carchar ac eraill a oedd wedi torri amodau eu Gwasanaethau Monitro Electronig.
Cafwyd yr arestiadau canlynol ar y diwrnod:
Townhill – dau arestiad
Castell-nedd – naw arestiad
Port Talbot – saith arestiad
Dinas – deg arestiad
Treforys – tri arestiad
Gorseinon – dau arestiad
Dywedodd y Prif Arolygydd Emma White:
"Mae Ymgyrch Chirk yn dangos pa mor benderfynol ydym i fynd ar drywydd troseddwyr a'u dwyn i gyfrif.
"Rydym wedi gwneud yr arestiadau hyn i gyd yn dilyn ymchwiliadau o'r safon uchaf sy'n ceisio cyflawni'r canlyniadau gorau i ddioddefwyr.
"Rwyf yn ddiolchgar i'r holl gydweithwyr a gymerodd ran am eu gwaith caled yn tynnu'r troseddwyr hyn oddi ar y strydoedd. Mae ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot bellach yn llawer mwy diogel o ganlyniad i hyn."