Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Bydd dyn o Gastell-nedd yn treulio bron i chwarter canrif yn y carchar ar ôl cael ei ganfod yn euog o dreisio menyw yn y gorffennol.
Mae euogfarn ddiweddaraf Simon Morgan, 40 oed, yn ymwneud â threisio dioddefwraig yn 2015, cyn ei euogfarnau yn 2025 am drais, ymddygiad rheoli gorfodaethol ac achosi niwed corfforol gwirioneddol yn erbyn dioddefwr gwahanol yn 2021.
Yr wythnos hon, mae Morgan wedi cael dedfryd estynedig o 10 mlynedd yn y carchar. Bydd y ddedfryd hon yn olynol i'r ddedfryd o 14 mlynedd a gafodd ym mis Ebrill 2025 ar ôl cael ei ganfod yn euog o droseddau treisgar a rhywiol eraill.
Dywedodd Emma Robbins, Swyddog o'r Tîm Ymchwilio i Achosion o Dreisio:
"Mae troseddau rhywiol a threisgar Simon Morgan yn afiach ac nid ydynt wedi'u cyfyngu at un dioddefwr yn unig. Mae'n fygythiad parhaus i ddiogelwch menywod ac nid oes amheuaeth y byddai'n cyflawni'r un troseddau yn erbyn rhywun arall heddiw pe na bai ei ddioddefwyr dewr wedi dod atom.
"Rydym yn canmol dewrder eithriadol y dioddefwyr wrth roi gwybod i ni. Arweiniodd y Tîm Ymchwilio i Achosion o Dreisio ymchwiliad trylwyr i droseddau Simon Morgan, ac o ganlyniad mae'r dyn ofnadwy hwn wedi'i ddwyn o flaen ei well o'r diwedd.
"Rydym yn falch o weld bod dyn mor dreisgar a pheryglus – un a gamfanteisiodd ar ei bŵer dros fenywod diamddiffyn yn gyson – wedi cael dedfryd hir o garchar."
Nid ydym byth yn diystyru pa mor anodd yw hi i oroeswyr cam-drin rhywiol siarad yn agored a rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath.
Ond rydym yn gobeithio y bydd achosion fel hyn yn rhoi sicrwydd y byddwn yn gwrando ar ddioddefwyr, yn eu trin ag urddas a pharch, ac y byddant yn cael eu cefnogi drwy'r broses farnwrol.
Os ydych chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, ac nad ydych yn barod i roi gwybod i'r heddlu amdano eto, peidiwch â dioddef yn dawel. Gellir dod o hyd i gyfoeth o wybodaeth a manylion am wasanaethau cymorth yma.
*Yn unol â dymuniadau'r ddioddefwraig, nid ydym wedi cyhoeddi llun o'r ddalfa o Simon Morgan. Rydym yn gofyn i bobl sy'n gadael sylwadau barchu'r dymuniadau hyn.