Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn ystod y gaeaf hwn, gwelwyd cynnydd mewn gweithgarwch plismona yn y gymdogaeth yn ein cymunedau i sicrhau eu bod yn teimlo'n ddiogel, fel rhan o'r Gaeaf o Weithredu.
O ganlyniad i ymdrechion gan yr heddlu, mae'r data* yn dangos gostyngiad o 50% mewn achosion o ddwyn beiciau a gostyngiad o 48% mewn achosion o fwrgleriaeth fasnachol o gymharu â'r llynedd. Yn debyg i'r cynnydd yn yr haf, nodwyd ardaloedd allweddol yn ardal yr heddlu fel rhan o'r Gaeaf o Weithredu, sef:
Hefyd, gwelwyd gostyngiad o 38% mewn achosion o fwrgleriaethau mewn cartrefi fel rhan o'r Gaeaf o Weithredu, darparodd y Gwnstabliaeth Wirfoddol 600 o oriau, a gwelwyd gostyngiad o 14% mewn achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Cafwyd saith Gorchymyn Ymddygiad Troseddol hefyd i atal pobl rhag aildroseddu, fel mynd i rai ardaloedd, â goblygiadau pe baent yn gwneud hynny.
Dywedodd y Prif Arolygydd Tony Williams: "Fel rhan o'r cynnydd hwn mewn gweithgarwch, gwnaethom ganolbwyntio ar faterion allweddol a oedd yn effeithio ar gymunedau a'r busnesau ynddynt yn ystod cyfnod y gaeaf. Diolch i'r ymdrechion hyn, cafodd nifer o ladron eu dwyn i gyfrif a gwnaethant dreulio'r Nadolig dan glo.
"Rwy'n annog preswylwyr a pherchnogion busnesau i ymgysylltu â'u timau lleol, i ddod o hyd i'w swyddog lleol y gallant gysylltu ag ef i fynegi unrhyw bryderon, ac i ddweud eu
dweud. Er bod y 'Gaeaf o Weithredu' wedi dod i ben, nid yw hynny'n golygu y byddwn yn rhoi'r gorau i'n hymdrechion i gadw ein cymunedau'n ddiogel."
Cymharir yr holl ddata â'r un cyfnod y llynedd (1 Rhagfyr 2024 – 30 Ionawr 2025)