Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu am ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth A.
Cafodd Sean Doyle, 36 oed o Waunarlwydd, ei arestio gan Dîm Plismona yn y Gymdogaeth Gorseinon ar ôl cynnal chwiliad o dan warant yn ei gyfeiriad cartref a'i gerbyd. Atafaelwyd eitemau gan gynnwys cyffuriau (powdr a thabledi) a nifer o ffonau symudol.
Plediodd Doyle yn euog i fod â chrac cocên yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi a dau achos o fod â chyffuriau Dosbarth C yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi.
Mae wedi cael ei ddedfrydu i dair blynedd yn y carchar.
Dywedodd Goruchwylydd y Tîm Plismona yn y Gymdogaeth, y Rhingyll Molly Llewellyn:
“Roedd Sean Doyle yn dod â chyffuriau a gofid ar strydoedd Waunarlwydd ac Abertawe ehangach.
“Ond, fel llawer o ddelwyr cyffuriau o'i flaen, cafodd ei ddal gan yr heddlu.
“Mae Heddlu De Cymru yn cydnabod yr effaith niweidiol y gall delio mewn cyffuriau ei chael ar ein cymunedau. Mae ein timau plismona yn y gymdogaeth yn ymrwymedig i wrando ar drigolion, mynd i'r afael â'u pryderon, a tharfu ar y sawl sy'n ymwneud â'r gweithgarwch anghyfreithlon hwn.
“Os ydych yn poeni bod hyn yn digwydd yn eich ardal chi, rhowch wybod i ni amdano - gyda'n gilydd, gallwn helpu i gadw ein cymdogaethau'n ddiogel.”