Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn dilyn ei euogfarn ddiweddar o sawl achos o ddwyn beiciau pedal, rhoddwyd dedfryd o 26 wythnos i Ryan Marquardt, 29 oed o Butetown, wedi'i gohirio am 12 mis. Hefyd, cafodd Orchymyn Ymddygiad Troseddol am dair blynedd yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Iau 20 Awst.
Rhaid i Marquardt hefyd gwblhau gofyniad adfer cyffuriau. Gwnaeth Marquardt ddwyn sawl beic gwerth miloedd o bunnoedd ar draws ardal Caerdydd dros gyfnod o chwe mis.
Fel rhan o'r Gorchymyn Ymddygiad Troseddol, rhaid i Marquardt beidio â mynd i mewn i fan storio beiciau ddynodedig, rhesel feiciau, storfa feiciau neu gyfleuster tebyg a ddarperir ar gyfer parcio neu sicrhau beiciau pedal, nac aros yn y lleoedd hynny, yn y lleoliadau canlynol:
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf
Heol y Bont, Llandaf
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Rhodfa'r Gorllewin
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, safle llety Plas Gwyn
Heol Llantrisant
Preswylfeydd Talybont Prifysgol Caerdydd (Gogledd Talybont, De Talybont, Llys Talybont, Porth Talybont)
Trotman Dickenson Place, Excelsior Road, Bevan Place a Heol y Gogledd
Safleoedd Prifysgol Caerdydd (tir gan gynnwys y Ganolfan Ôl-raddedig, Adeilad John Percival, Adeilad Aberconwy a Llyfrgell y Celfyddydau a'r Gwyddorau Cymdeithasol)
Rhodfa Colum
Llety Myfyrwyr Unite (Cambrian Point, Severn Point, Blackweir Lodge)
Heol Maendy, Blackweir Terrace
Preswylfa Neuadd Hodge
Wyeverne Road, Prifysgol De Cymru Campws Trefforest
Ysgol Uwchradd Cathays, Ffordd y Goron
Canolfan Hamdden Maendy, Ffordd y Goron
Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Heol y Watrel
Hefyd, mae'n ofynnol iddo beidio â reidio unrhyw feic neu feic pedal yng nghanol dinas Caerdydd.
Nod Gorchymyn Ymddygiad Troseddol yw atal troseddu ac amddiffyn y gymuned, gweithwyr lleol, ac aelodau'r cyhoedd rhag gofid a tharfu parhaus a niwed posibl.
Mae'r achos hwn yn dangos ein hymrwymiad i fynd i'r afael â dwyn beiciau.
Dylid rhoi gwybod i'r heddlu am unrhyw droseddau a digwyddiadau.
Ceir rhagor o wybodaeth am sut i gadw eich beic yn ddiogel yma: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cp/cyngor-atal-troseddau/dwyn-cerbyd/pa-mor-ddiogel-yw-eich-beic/