Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cael ei garcharu ar ôl cuddio marwolaeth ei fam er mwyn iddo elwa'n ariannol.
Plediodd Christopher Phillips, 60 oed o Borthcawl, yn euog i atal corff marw rhag cael ei gladdu'n gyfreithlon ac yn barchus ac i dwyll drwy ymhoniad anwir yn Llys y Goron Caerdydd ar 20 Mawrth.
Ddydd Llun 3 Awst, cafodd Phillips ei ddedfrydu yn Llys y Goron Merthyr Tudful i ddwy flynedd a phedwar mis yn y carchar.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i gyfeiriad ar Poplar Crescent, Porthcawl, ar 17 Chwefror yn dilyn pryderon ynghylch lles menyw nad oedd wedi cael ei gweld gan weithwyr meddygol proffesiynol ers 2022, er ei bod wedi parhau i gael presgripsiynau ac wedi bod mewn cysylltiad cyson yn y gorffennol.
Aeth swyddogion i'r tŷ ychydig cyn 7pm, a gwnaethant gyfarfod â Phillips yno. Gofynnwyd iddo ble roedd ei fam, a honnodd ei bod hi yn Llundain gyda chefndryd. Wrth i swyddogion roi pwysau ar Phillips am ragor o wybodaeth, ni allai roi manylion am y cefndryd na ble roedden nhw'n byw.
Wrth chwilio'r tŷ, daeth swyddogion o hyd i rewgell gyda blodau wedi'u gosod ar ei phen. Aeth swyddogion eraill i'r lleoliad, a chanfuwyd corff menyw yn ei 80au, y gellir cadarnhau bellach mai Sylvia Phillips ydoedd, y tu mewn i’r rhewgell.
Pan wnaeth swyddogion gyfweld â Phillips, atebodd drwy ddweud "dim sylw" i bob cwestiwn a ofynnwyd iddo.
Mae archwiliad post-mortem cychwynnol wedi cael ei gynnal ond nid yw achos y farwolaeth wedi'i gadarnhau eto. Bydd cwest yn cael ei gynnal maes o law.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd Claire Lamerton:
"Mae hwn yn achos trist iawn, lle gwnaeth Phillips guddio marwolaeth ei fam ei hun ac elwa'n ariannol am gyfnod sylweddol.
Mae fy meddyliau gydag anwyliaid Sylvia yn ystod y cyfnod eithriadol o anodd hwn, ac rwy’n gobeithio eu bod wedi cael rhywfaint o heddwch ar ôl gallu ei rhoi i orffwys."