Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Diolch i waith rhagorol ditectifs gan ddefnyddio teledu cylch cyfyng, cafodd dyn ei ddwyn i gyfiawnder am uwchsbecian yng nghanol dinas Caerdydd.
Rydym yn dilyn cynifer o opsiynau ymchwilio â phosibl, gan gynnwys teledu cylch cyfyng, i olrhain y rheini sy'n gyfrifol am gyflawni troseddau ac i gael cyfiawnder i ddioddefwyr.
Ac yn yr achos hwn, roedd hyn yn hanfodol.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad yng nghanolfan siopa Dewi Sant 2 fore dydd Llun 7 Gorffennaf.
Adroddodd menyw fod dyn anhysbys wedi ffilmio i fyny sgert ei merch a rhedeg i ffwrdd i gyfeiriad Ffordd Churchill.
Cafodd y person dan amheuaeth ei olrhain ar deledu cylch cyfyng yn ôl i'w gar a oedd wedi'i barcio yn Heol Fitzalan.
Drwy gynnal rhagor o ymchwiliadau darganfuwyd bod Alex Allegretto wedi'i enwi'n yrrwr ar y cerbyd, a chafodd ef ei arestio yn ei gartref ym Maesteg bedwar diwrnod yn ddiweddarach.
Cyfaddefodd y dyn 39 oed y drosedd o weithredu ffôn symudol o dan ddillad person arall er mwyn cael boddhad rhywiol
Plediodd yn euog a chafodd ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Caerdydd ar 5 Awst.
Rhaid i Allegretto:
Dywedodd y swyddog yn yr achos, y Rhingyll Luis Antony, o Heddlu De Cymru:
"Mae gan bawb yr hawl i deimlo'n ddiogel, ble bynnag maen nhw, ac ni ddylai neb fod yn destun y math yma o drosedd.
"Mae'r digwyddiad hwn yn parhau i gael effaith ar y dioddefwr. Mae hi'n poeni am bobl sy'n cerdded y tu ôl iddi ac mae hi'n bryderus pan fydd hi'n mentro allan.
"Drwy ymholiadau teledu cylch cyfyng helaeth, roedd modd i ni olrhain y person dan amheuaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y drosedd.
"Mae'r delweddau'n dangos yn glir bwriad Alex Allegretto a'r hyn a wnaeth i'r ferch ifanc hon tra roedd hi allan yn siopa gyda'i mam.
"Gobeithio bydd y canlyniad yn y llys yn rhoi rhywfaint o gysur iddi ac yn ei galluogi i fagu ei hyder eto."