Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cael ei garcharu ar ôl cyfaddef lladrata ym mis Mai 2026.
Dedfrydwyd Carl Jubin, 40 oed o Ben-y-bont ar Ogwr, i ddwy flynedd o garchar yn dilyn ei euogfarn.
Cafodd Jubin ei ddedfrydu ddydd Iau 30 Gorffennaf yn Llys y Goron Abertawe, lle plediodd yn euog i gyhuddiad o ladrata.
Aeth swyddogion i siop Spar ar Ewenny Road ddydd Iau 28 Mai ar ôl derbyn galwad am ladrad. Adolygodd swyddogion system teledu cylch cyfyng y siop, a gwelsant fod Jubin wedi gwthio ei ffordd y tu ôl i'r cownter cyn gwthio'r fenyw a oedd yn gweithio yno, gan achosi iddi gwympo ar ei phen. Yna, dygodd Jubin fêp cyn rhedeg allan o'r siop.
Llwyddodd swyddogion i adnabod Jubin o'r lluniau teledu cylch cyfyng a'i arestio yn fuan wedyn.
Dywedodd y Rhingyll Jonathan Watts: "Gall lladrad gael effaith ddinistriol ar weithwyr siopau, ac ni ddylai neb orfod dioddef trais wrth weithio.
Diolch i ymateb cyflym y tîm a chydweithrediad y dioddefwr a'i chydweithwyr, llwyddwyd i sicrhau dedfryd o garchar sylweddol i Jubin."