Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn dilyn y llifogydd sydyn yn ardal Rasuwa ac ardal y ffin rhwng Nepal a Tsieina ar 26 Awst, mae llywodraeth Nepal wedi sefydlu rhif ffôn brys di-doll yn Nepaleg (1234), a llinell gymorth bwrpasol (1144) sydd ar gael yn Nepal. Os ydych chi wedi'ch effeithio ac angen cymorth gan lywodraeth y DU, ffoniwch:
Bu’n rhaid i swyddogion ddilyn y dyn ar droed ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym mis Mehefin eleni.
Dedfrydwyd Craig Larkin, 46 oed o Wildmill ym Mhen-y-bont ar Ogwr, i bum mlynedd o garchar yn dilyn ei euogfarn.
Cafodd Larkin ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener 14 Awst, lle plediodd yn euog i gyhuddiad o fod â chrac cocên yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi a chyhuddiad o fod â heroin yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi.
Daw hyn ar ôl i swyddogion gynnal patrolau yn ardal Wildmill ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ystod oriau mân y bore ym mis Mehefin. Gwnaeth swyddogion weld Larkin yn cario gwrthrych mawr wrth iddynt yrru i lawr St Andrews Road. Roedd yr heddlu yn ymwybodol bod Larkin wedi delio cyffuriau yn y gorffennol.
Stopiodd swyddogion y car i siarad â Larkin ond fe redodd i ffwrdd yn ystod y sgwrs. Wrth i swyddogion redeg ar ei ôl, gollyngodd Larkin sawl dilledyn a bag. Llwyddodd swyddogion i’w ddal a'i arestio ac, wrth ei chwilio, daethant o hyd i gyffuriau dosbarth A yn y bag a siaced denau goch tywyll.
Wrth archwilio’r siaced, daeth swyddogion o hyd i ffôn symudol arall, clorian, carreg o bowdr gwyn cywasgedig a bag yn cynnwys pecynnau roedden nhw'n credu eu bod yn cynnwys heroin.
Dywedodd Cwnstabl yr Heddlu Rhodri Wilson: "Allwch chi ond dechrau dychmygu effaith negyddol y cyffuriau mae Craig Larkin wedi'u gwerthu ar y rhai hynny sydd wedi eu cymryd, heb sôn am eu ffrindiau, eu teulu a'u cymunedau ehangach.
"Dyma ddedfryd dda arall yn ymwneud â chyffuriau, sy'n anfon neges glir nad yw'r fasnach gyffuriau yn talu yn y diwedd - bydd ein swyddogion yn eich dal a byddwch chi'n mynd i'r carchar.