Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd Levi Hughes, 21 oed o Feddau, ei ddedfrydu i ddwy flynedd ac wyth mis yn y carchar yn dilyn ei euogfarn.
Dedfrydwyd Hughes ddydd Llun 24 Awst yn Llys y Goron Caerdydd lle plediodd yn euog i ymwneud â chyflenwi crac cocên.
Dechreuodd yr achos pan dderbyniodd swyddogion alwad ym mis Mai 2026 gan rywun oedd yn credu bod tŷ yn cael ei ddefnyddio i werthu cyffuriau. Pan gyrhaeddodd swyddogion y tŷ, nid oedd Hughes yno. Yn dilyn ymholiadau arestio, daethpwyd o hyd i Hughes a chafodd ei arestio.
Wrth lawrlwytho’r cynnwys oddi ar ffôn Hughes, gwnaeth swyddogion ganfod cyfres o alwadau a negeseuon a oedd yn ei gysylltu â chyflenwi crac cocên yn y Rhondda rhwng 1 Mai a 22 Mai 2026.
Dywedodd y Cwnstabl Brett O'Hagan: “Mae'r cyffuriau anghyfreithlon hyn yn arwain at ganlyniadau dinistriol i’r bobl ymhellach i lawr y gadwyn sy'n eu defnyddio, heb sôn am eu teuluoedd, eu ffrindiau a'r gymuned yn ehangach.
“Byddwn yn parhau i ymchwilio i unrhyw wybodaeth sydd gennych am werthu neu ddefnyddio'r cyffuriau hyn, a byddwn yn mynd i’r afael â llinellau cyffuriau sy’n gweithredu ar draws yr ardal.”