Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yr wythnos diwethaf daeth Tribiwnlys Cyflogaeth, a ddygwyd gan gyn-swyddog, i ben. Roedd yr hawliad yn seiliedig ar gred y cyn-swyddog ei fod yn destun erledigaeth a bod annhegwch ynghylch bod yn destun achos camymddygiad difrifol, oherwydd ei fod wedi cymryd rhan mewn achosion tribiwnlys cyflogaeth ynghynt (ac mewn achosion cyfredol).
Cafodd y swyddog dan sylw ei ddiswyddo o'r sefydliad ar 16 Ionawr 2025, oherwydd yr achos Camymddygiad Difrifol. Yn ôl y penderfyniad mewn Gwrandawiad Camymddygiad yr Heddlu cychwynnol - dan gadeiryddiaeth Cadeirydd annibynnol sy'n Gymwysedig yn Gyfreithiol - roedd y swyddog wedi torri safonau ymddygiad proffesiynol yr Heddlu, sef defnyddio grym ac ymddygiad annheilwng. Cafodd ei ddiswyddo heb rybudd.
Daeth apêl wedi hynny i Dribiwnlys Apeliadau annibynnol yr Heddlu, i'r casgliad ar 22 Ionawr 2026 mai diswyddo heb rybudd oedd y canlyniad priodol gan fod gweithredoedd y cyn-swyddog yn gyfystyr â chamymddygiad difrifol. Gwnaeth panel y tribiwnlys annibynnol gadarnhau sail un a sail dau o apêl y cyn-PS Davies, gwrthdroi'r penderfyniad gwreiddiol, a dod i'w penderfyniad ei hun ar yr ymddygiad. Daethant i'r casgliad bod dwy safon - sef defnyddio grym ac ymddygiad annheilwng - wedi cael eu torri. Penderfynwyd mai camymddygiad difrifol oedd y rhain, a'r unig ganlyniad priodol oedd diswyddo heb rybudd. Mae'r penderfyniad hwn yn adlewyrchu penderfyniad panel y gwrandawiad camymddygiad gwreiddiol.
Mae'r tribiwnlys apeliadau yn gorff annibynnol sy'n gwrando ar apeliadau yn erbyn canfyddiadau trafodion camymddygiad mewnol yn erbyn swyddogion yr heddlu. Nid ydynt yn gysylltiedig â Heddlu De Cymru ac maent yn gweithredu'n annibynnol i sicrhau penderfyniadau teg a diduedd.
Dywedodd Mark Stevenson, Prif Swyddog Cynorthwyol:
"Nid oedd yr hawliad yn y Tribiwnlys Cyflogaeth yn herio'r canfyddiadau hyn, ac nid yw'r penderfyniad a gafwyd yn gwrthdroi'r penderfyniadau a wnaed yn y gwrandawiad gwreiddiol a'r apêl ddilynol. Ni ddaeth y barnwr i unrhyw gasgliad bod y rheini a oedd yn rhan o'r trafodion wedi trin y cyn-swyddog yn annheg mewn modd bwriadol neu faleisus. Fodd bynnag, penderfynodd y barnwr o blaid rhai agweddau ar hawliad y cyn-swyddog. Roedd y rhain yn ymwneud ag elfennau o reoli'r gŵyn wreiddiol a'r apêl ddilynol ac ailgyfweld â thystion."
Ychwanegodd Mr Stevenson: "Ni fyddwn yn goddef ymddygiad amhriodol gan swyddogion yr heddlu yn Heddlu De Cymru. Roedd yr heddlu hwn yn un o ddau heddlu yn unig yng Nghymru a Lloegr i gael dyfarniad 'da' gan yr arolygiaeth gwnstabliaeth am y ffordd y mae'r heddlu'n fetio ei swyddogion a'i staff, pa mor effeithiol y mae'n diogelu gwybodaeth a data sydd ganddo a pha mor dda y mae'n mynd i'r afael â llygredigaeth.
"Mae'r heddlu bellach yn adolygu manylion a rhesymeg y penderfyniad yn y tribiwnlys cyflogaeth diweddaraf ac yn ystyried yr ystod o ymatebion sydd ar gael mewn perthynas â'r canfyddiad."