Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu'r beiciwr modur 45 oed Lynne Trump, o Greunant, a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A4109 ger Glofa Cefn Coed ddydd Sul 16 Awst, wedi talu teyrnged iddi fel a ganlyn.
"Roedd Lynne Marie Trump yn wraig ymroddedig, yn fam gariadus ac yn fam-gu annwyl. Roedd hi'n un o ddiemwntau prin bywyd, heb os - rhywun arbennig dros ben, yr oedd ei phresenoldeb yn gwneud y byd yn lle mwy disglair a hapusach i bawb a gafodd y fraint o'i hadnabod.
"Roedd Lynne yn hwyl, yn gariadus, yn ofalgar ac yn hael, â phersonoliaeth wych a ddenodd bobl tuag ati. Hi oedd enaid pob parti, bob amser yn dod â chwerthin, cynhesrwydd a hapusrwydd ble bynnag yr aeth hi. Gallai ei gwên getsin a'i synnwyr digrifwch gwych oleuo unrhyw ystafell, ac roedd ganddi allu rhyfeddol i wneud i bawb o'i chwmpas deimlo ei bod hi'n eu croesawu, eu gwerthfawrogi a'u caru.
"Hi oedd calon ei theulu ac yn rhywun a fyddai bob amser yn blaenoriaethu pobl eraill cyn ei hunan. Fel gwraig, mam a mam-gu, rhoddodd gymaint o gariad, cefnogaeth ac atgofion gwerthfawr i'w theulu a fydd yn eu trysori nhw am byth. Roedd ei theulu yn golygu popeth iddi, ac roedd hi'n ymfalchïo mewn gwylio ei hanwyliaid yn tyfu ac yn adeiladu eu bywydau eu hunain.
"Roedd Lynne hefyd yn trysori ei chyfeillion yn ddwfn. Roedd ei ffrindiau yn rhan mor bwysig o'i bywyd, ac roedd ei pherthnasoedd gyda phobl yn bur ac yn barhaol. Roedd hi wrth ei bodd yn treulio amser gyda nhw, yn rhannu cyfleoedd i chwerthin, hel straeon a dathlu, yn ogystal â'r holl eiliadau bach a wnaeth bywyd yn arbennig. Roedd ganddi ffordd wych o wneud i ffrindiau deimlo fel teulu.
"Roedden ni'n hynod lwcus i gael rhywun mor arbennig â Lynne yn ein bywydau. Gwnaeth hi gyffwrdd â chalonnau cynifer o bobl a gadawodd argraff barhaol ar bawb a oedd yn ei hadnabod. Ni fydd ei charedigrwydd, ei chwerthin, ei chynhesrwydd, a'i hysbryd hardd byth yn cael eu hanghofio.
"Er ein bod ni'n torri ein calonnau nad yw hi gyda ni mwyach, byddwn ni'n cario Lynne gyda ni yn ein calonnau am byth. Bydd cof amdani yn parhau drwy ei theulu, ei ffrindiau a'r bywydau di-ri y gwnaeth hi gyffwrdd â nhw.
"Roedd Lynne yn ddiemwnt prin, heb os - yn werthfawr, yn ddigymar ac yn unigryw. Byddwn ni'n ei charu, yn gweld ei heisiau, ac yn ei chofio bob amser."
Gofynnir i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu a allai fod â lluniau camera cerbyd, gysylltu â ni ar 101 gan ddyfynnu rhif y digwyddiad sef 2600268317.