Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn dilyn y llifogydd sydyn yn ardal Rasuwa ac ardal y ffin rhwng Nepal a Tsieina ar 26 Awst, mae llywodraeth Nepal wedi sefydlu rhif ffôn brys di-doll yn Nepaleg (1234), a llinell gymorth bwrpasol (1144) sydd ar gael yn Nepal. Os ydych chi wedi'ch effeithio ac angen cymorth gan lywodraeth y DU, ffoniwch:
Mae dyn o Gastell-nedd Port Talbot wedi cael dedfryd estynedig ar ôl iddo gael ei ddyfarnu'n euog o gyflawni nifer o droseddau rhywiol.
Cafwyd Talvinder Atwal, 24 oed o Lansawel, yn euog ym mis Gorffennaf o sawl achos o dreisio ac ymosod ar fenyw. Fe'i cafwyd yn euog hefyd o dagu'r un dioddefwr yn fwriadol.
Cafwyd Atwal, a oedd wedi pledio'n ddieuog i bob cyhuddiad, yn euog o ddau gyhuddiad o dreisio, cyhuddiad o ymosod drwy dreiddio, cyhuddiad o dagu bwriadol, dau gyhuddiad o ymosod ar fenyw yn rhywiol a chyhuddiad o ymddygiad rheolaethol/gorfodaethol.
Mae wedi cael dedfryd estynedig o 17 mlynedd yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Meirian Evans:
"Gwnaeth Talvinder Atwal fywyd ei ddioddefwr yn uffern drwy ei gorfodi hi i ddioddef troseddau rhywiol dro ar ôl tro.
"Mae hyd y ddedfryd a roddwyd yn dangos arwyddocâd a difrifoldeb ei droseddau.
"Fe wnaeth e dreisio ei ddioddefwr ac mae ei weithredoedd yn gwbl warthus. Rydym yn canmol dewrder y dioddefwr wrth ddod i siarad â ni, ac yn gobeithio y gall hi ddechrau symud ymlaen gyda'i bywyd yn awr."
Nid ydym byth yn diystyru pa mor anodd yw hi i oroeswyr cam-drin rhywiol siarad yn agored a riportio digwyddiadau o'r math.
Ond rydym yn gobeithio y bydd achosion fel hyn yn rhoi sicrwydd y byddwn yn gwrando ar ddioddefwyr, yn eu trin ag urddas a pharch, ac y byddant yn cael eu cefnogi drwy'r broses farnwrol.
Os ydych chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, ac nad ydych yn barod i roi gwybod i'r heddlu amdano eto, peidiwch â dioddef yn dawel. Ceir cyfoeth o wybodaeth a manylion am wasanaethau cymorth yma.