Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Mae pedwerydd person wedi cael ei gyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth bachgen yn ei arddegau yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffyrdd yng Ngorseinon ym mis Gorffennaf.
Cafodd Trisha Thomas, 36 oed o ardal Gorseinon, ei harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr fore Mercher (19 Awst) ac mae bellach wedi cael ei chyhuddo o'r drosedd.
Cafodd Tyler Ford, 18 oed o Dreforys, ei gyhuddo o lofruddio Ceiran Evans, o Orseinon, a cheisio llofruddio dioddefwr arall, yn dilyn gwrthdrawiad ffyrdd angheuol ar 9 Gorffennaf.
Cafodd Elliot Truelove, 33 oed o West Cross, Abertawe, a Liam Thomas, 18 oed o Dreforys yn Abertawe, eu cyhuddo yn ddiweddarach o lofruddiaeth a cheisio llofruddio mewn cysylltiad â'r digwyddiad hefyd.
Bydd Ford, Thomas a Truelove yn ymddangos gerbron Llys y Goron Abertawe ar 29 Medi.