Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae deliwr cyffuriau o Gaerdydd wedi cael ei garcharu yn dilyn ymchwiliad gan dîm Troseddau Cyfundrefnol Difrifol Caerdydd a'r Fro.
Cafodd Ashlee Omar, 23 oed o Dremorfa, ei ddedfrydu ar 5 Awst yn Llys y Goron Abertawe i 3 flynedd a 10 mis am ymwneud â chyflenwi heroin ac ymwneud â chyflenwi crac cocên.
Clywodd y llys sut cafodd rhif ffôn ei gysylltu ag ymchwiliad i linell cyffuriau Dosbarth A oedd yn gweithredu yng Nghaerdydd. Yn dilyn mwy o waith ymchwilio gan y tîm, cysylltwyd y rhif ag Ashlee Omar, y mae ei gwsmeriaid yn ei alw'n 'Ash'.
Cafodd Omar ei arestio gan swyddogion ar 19 Mehefin, ac atafaelwyd sylwedd y credir mai cocên ydoedd o'i boced. Cafodd Omar ei gyhuddo yn fuan ar ôl hynny ac fe blediodd yn euog i'r troseddau yn Llys Ynadon Caerdydd ar 22 Mehefin 2026.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Alexander Bartley: "Unwaith eto, dyma waith ymchwilio gwych gan dîm Troseddau Cyfundrefnol Difrifol Caerdydd a'r Fro, sydd wedi llwyddo i sicrhau nad yw deliwr cyffuriau arall yn rhan o’n cymuned mwyach.
“Mae'r cyffuriau yr oedd yn eu dosbarthu yn yr ardal yn cael canlyniadau dinistriol a hirdymor ar y defnyddwyr, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach. Rwy'n falch o weld y ddedfryd hon yn cael ei rhoi heddiw.”