Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn dilyn y llifogydd sydyn yn ardal Rasuwa ac ardal y ffin rhwng Nepal a Tsieina ar 26 Awst, mae llywodraeth Nepal wedi sefydlu rhif ffôn brys di-doll yn Nepaleg (1234), a llinell gymorth bwrpasol (1144) sydd ar gael yn Nepal. Os ydych chi wedi'ch effeithio ac angen cymorth gan lywodraeth y DU, ffoniwch:
Mae dyn o Gastell-nedd Port Talbot wedi cael ei garcharu ar ôl pledio'n euog i nifer o droseddau, gan gynnwys byrgleriaeth.
Aeth Marcus Thomas, 37 oed o Sandfields, i mewn i gartref ar Arthur Street ym Mhort Talbot fel tresmaswr yn ystod oriau mân 1 Mehefin a dwyn allweddi car o'r tŷ. Yna, baciodd y car i mewn i fan, gan achosi difrod i'r ddau gerbyd.
Yr un diwrnod, ceisiodd Thomas agor handlen drws tŷ arall ar y stryd mewn ymdrech i gael mynediad i'r eiddo, ond roedd y drws wedi'i gloi.
Ym mis Gorffennaf, plediodd Thomas yn euog i fyrgleriaeth, ymgais i gyflawni byrgleriaeth, y drosedd waethygedig cymryd cerbyd a difrodi cerbyd gwerth dros £5,000 a gyrru tra roedd wedi'i wahardd a heb yswiriant trydydd parti.
Mae Thomas wedi cael ei ddedfrydu i gyfanswm o bedair blynedd yn y carchar ac mae wedi'i wahardd rhag cael neu feddu ar drwydded yrru am bum mlynedd.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Joseph Wilcox:
"Mae ymddygiad pobl fel Marcus Thomas yn gwneud i bobl deimlo'n anniogel yn eu cartrefi eu hunain.
"Roedd yn gwybod bod yr hyn yr oedd yn ei wneud yn anghywir, ond penderfynodd wneud hynny beth bynnag. Does dim lle i ymddygiad o'r fath ar strydoedd Castell-nedd Port Talbot, ac mae troseddwyr fel Marcus yn haeddu treulio cyfnod sylweddol yn y carchar."