Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'n dristwch mawr gennym gadarnhau'r newyddion am farwolaeth ein cydweithiwr a'n ffrind, Cwnstabl yr Heddlu 8650 Rehaan Akhtar.
Dechreuodd Rehaan, 28 oed, ei daith gyda Heddlu De Cymru fel PCSO yng Nghaerdydd ym mis Hydref 2021. Aeth ymlaen i hyfforddi fel Swyddog yr Heddlu ac ymunodd â'r tîm lleol yn Abertawe fel Cwnstabl yr Heddlu ym mis Medi 2023.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan:
"Mae marwolaeth Rehaan yn destun sioc a thristwch mawr i mi. Ar yr adeg anodd hon, rydym yn cydymdeimlo â theulu a ffrindiau Rehaan, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'w cefnogi.
“Yn ystod ei amser gyda Heddlu De Cymru, gwasanaethodd ein cymunedau gyda balchder a phroffesiynoldeb fel PCSO a Swyddog yr Heddlu. Roedd yn uchel iawn ei barch ymhlith ei gydweithwyr a'r rhai y cyfarfu â nhw fel rhan o'i ddyletswyddau o ddydd i ddydd, a oedd yn hoff iawn ohono.
"Ar ran Heddlu De Cymru, rydym yn cydymdeimlo'n ddiffuant â phawb y mae ei farwolaeth wedi effeithio arnynt."