Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r ffordd y mae Heddlu De Cymru yn gweithio i ddiogelu plant rhag niwed wedi cael ei chydnabod gan arolygwyr yr heddlu.
Ystyriodd Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi sut mae'r heddlu yn ymateb i blant sy'n wynebu risg, sut mae'r risg i blant yn cael ei hasesu, ac effeithiolrwydd ymchwiliadau i achosion o gam-drin, esgeulustod a chamfanteisio. Edrychwyd hefyd ar arweinyddiaeth yr heddlu o ran trefniadau amddiffyn plant a gweithio gyda phartneriaid diogelu.
Mewn adroddiad a gyhoeddwyd heddiw, daeth i'r casgliad canlynol: “mae’n amlwg bod ymdrechion cydgysylltiedig swyddogion a staff, yn ymestyn o dimau gweithredol i arweinwyr strategol, yn helpu i gyflawni canlyniadau gwell i blant.”
Canfu'r arolygiad y canlynol:
Dyma ddolenni i ddatganiad i'r wasg ac adroddiad Arolygiaeth Ei Fawrhydi.
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, Tom Williams:
“Bob dydd mae ein swyddogion a'n staff ar y rheng flaen ac mewn rolau arbenigol yn gweithio'n ddiflino i ddiogelu'r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau rhag niwed ac rwy'n falch iawn bod ein gwaith ar amddiffyn plant wedi cael ei gydnabod gan Arolygiaeth Ei Fawrhydi.
“Mae llawer o'r gwaith hwn yn digwydd y tu ôl i'r llenni, heb i'r cyhoedd ei weld, ond mae'n rhan hanfodol o blismona yr ydym wedi buddsoddi ynddi er mwyn amddiffyn plant. Rydym yn gweithio'n ddiflino gyda'n partneriaid i nodi'r rhai sy'n wynebu risg o niwed, sicrhau eu bod yn cael eu diogelu ac yn cael cymorth priodol, ac ymchwilio i'r rhai sy'n cam-drin, yn esgeuluo ac yn camfanteisio ar bobl ifanc.
“Mewn maes plismona mor gymhleth, bydd ffyrdd y gallwn wella a dyna pam rydym wedi cynnig mwy o hyfforddiant ac wedi sefydlu timau camfanteisio dynodedig sydd eisoes wedi gwneud gwahaniaeth wrth nodi ac ymchwilio i droseddau meithrin perthynas amhriodol a chamfanteisio'n rhywiol ar blant. Mae mwy o waith i'w wneud ond rydym yn gwbl ymrwymedig i amddiffyn plant rhag niwed ac i chwarae rôl hanfodol yn y rhwydwaith ehangach o bartneriaid ledled De Cymru sy'n cadw pobl ifanc yn ddiogel.
“Rwy'n apelio ar unrhyw un sy'n credu y gallai fod yn cael ei gam-drin neu y gallai rhywun agos ato fod yn cael ei gam-drin neu fod mewn perygl o gael ei gam-drin, i gysylltu â'r heddlu i roi gwybod am hynny. Byddwn yn gwrando arnoch ac yn ymchwilio i'r rhai sy'n cyflawni'r troseddau erchyll hyn er mwyn eu dwyn i gyfrif.”