Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion ym Mhentre-baen wedi cael pwerau ychwanegol i atal cynulliadau, defnydd anghyfreithiol o dân gwyllt ac ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig dros gyfnod Noson Tân Gwyllt.
Mae'r gorchymyn yn fesur ataliol ar ôl i ni gael gwybod am achosion o dân gwyllt yn cael eu saethu tuag at eiddo a cherbydau ddydd Gwener (Noson Calan Gaeaf).
Mae gorchymyn gwasgaru 48 awr, sydd wedi'i roi o dan Adran 35 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, ar waith o 4pm heddiw (dydd Mawrth, 4 Tachwedd) tan 6am ddydd Iau, 6 Tachwedd.
O dan Adran 35 o'r Ddeddf, gall swyddogion gyfarwyddo unrhyw un sy'n achosi, neu sy'n debygol o achosi aflonyddwch, braw neu drallod, i adael yr ardal fel y'i dangosir yn y map.

Bydd gan y swyddogion hefyd y pŵer i atafaelu unrhyw eiddo y maent yn amau sy'n cael ei ddefnyddio i achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Dywedodd yr Arolygydd Tim Ursell, o Heddlu De Cymru: "Mae'r gorchymyn gwasgaru ar waith am y 48 awr nesaf fel mesur ataliol.
“Byddwch yn gweld mwy o swyddogion yn ardal Pentre-baen. Bydd swyddogion yn cymryd camau ar unwaith i orfodi'r pwerau ychwanegol a roddwyd iddynt i gadw'r gymuned yn ddiogel.
“Rydym yn annog rhieni a gwarcheidwad i siarad â'u pobl ifanc am beidio ag ymddwyn yn wrthgymdeithasol. Sicrhewch hefyd eich bod yn gwybod â phwy y maent yn cymdeithasu, beth maent yn ei wneud a ble maent.”
Mae gan Heddlu De Cymru ddull gweithredu dim goddefgarwch mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a dim ond un enghraifft yw'r gorchymyn gwasgaru hwn o'r gwaith rydym yn ei wneud.