Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae William Adesanya o Benarth wedi cael ei garcharu am sawl achos o dreisio.
Gwnaed Adesanya hefyd yn destun gorchymyn atal a Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol, gan ei wahardd rhag cael cyswllt â gweithwyr rhyw, y ddau ohonynt am gyfnod amhenodol.
Dedfrydwyd y dyn 25 oed yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Llun, 3 Tachwedd i 16 mlynedd yn y carchar, gyda chyfnod trwydded estynedig o chwe blynedd.
Cafodd ei garcharu ar ôl ei gael yn euog o dri achos o dreisio, un achos o ymosodiad rhywiol ac un achos o dagu bwriadol.
Gwnaed Adesanya hefyd yn destun gorchymyn atal a Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol, gan ei wahardd rhag cael cyswllt â gweithwyr rhyw, y ddau ohonynt am gyfnod amhenodol.
Aeth Adesanya i gyfeiriad cartref y dioddefwr yng Nghaerdydd er mwyn defnyddio ei gwasanaethau partneru.
Pan oedd yn y cyfeiriad tagodd Adesanya y dioddefwr nes ei bod yn anymwybodol, ymosododd arni yn rhywiol a'i threisio sawl gwaith. Ffilmiodd y gweithredoedd ar ei ffôn symudol.
Ar ôl y gwrandawiad dedfrydu, ysgrifennodd y dioddefwr at Heddlu De Cymru yn dweud:
"Hoffwn ddiolch i DC Nick Young a phawb arall sydd wedi fy helpu a'm cefnogi drwy'r treial a'r broses o ddedfrydu fy ymosodwr.
"Rwy'n ddiolchgar dros ben iddo ac am bopeth y mae wedi'i wneud. Mae wedi dangos amynedd, caredigrwydd a thosturi anhygoel drwy gydol y broses drawmatig hon.
"Mae wedi bod yn daith hir ac emosiynol ac ni fyddwn wedi gallu ymdopi heb gymorth pawb dan sylw.
"Diolch yn fawr i chi i gyd. O waelod fy nghalon."
Dywedodd y swyddog a fu'n ymwneud â'r achos, y DC Nick Young:
"Dangosodd y dioddefwr ddewrder eithriadol drwy gydol y broses ac mae'n gobeithio y bydd ei stori yn annog eraill sy'n dioddef i roi gwybod am faterion. Bydd Heddlu De Cymru yn mynd ati'n ddiflino i fynd ar ôl troseddwyr a'r rheini sy'n targedu pobl sy'n agored i niwed yn ein cymunedau."
Nid ydym byth yn diystyru pa mor anodd yw hi i oroeswyr cam-drin rhywiol siarad yn agored a rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath.
Ond rydym yn gobeithio y bydd rhannu geiriau'r dioddefwr yn rhoi sicrwydd y byddwn yn gwrando ar ddioddefwyr, yn eu trin ag urddas a pharch, ac y byddant yn cael eu cefnogi drwy'r broses farnwrol.
Os ydych chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, ac nad ydych yn barod i roi gwybod amdano i'r heddlu eto, peidiwch â dioddef yn dawel. Gellir dod o hyd i gyfoeth o wybodaeth a manylion am wasanaethau cymorth yma.