Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i fwrgleriaeth yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, Caerdydd.
Mae Gavin Burnett, 43 oed, a Darren Burnett, 50 oed o Northampton, wedi cael eu cyhuddo o fwrgleriaeth ac maent yn parhau i fod yn y ddalfa.
Cafodd eitemau o emwaith aur o'r Oes Efydd, eu dwyn o gwpwrdd arddangos ym mhrif adeilad yr amgueddfa am tua 12.30am ddydd Llyn, 6 Hydref.
Mae'r ymchwiliad yn parhau i olrhain a dod o hyd i'r eitemau a gafodd eu dwyn.
Mae'r eitemau hyn yn cynnwys:
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Bob Chambers, o Heddlu De Cymru:
"Er bod dau ddyn wedi cael eu cyhuddo, mae'r ymchwiliad yn parhau.
"Rydym yn canolbwyntio ar ddod o hyd i'r eitemau a gafodd eu dwyn er mwyn eu dychwelyd i'w cartref cywir.
"Rydym yn erfyn ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl.”
Dywedodd Jane Richardson, Prif Weithredwr Amgueddfa Gymru:
"Hoffem ddiolch i'r heddlu am ei ymchwiliad parhaus i ddod o hyd i'r eitemau gwerthfawr ac unigryw hyn sy'n rhan o hanes, treftadaeth a diwylliant Cymru.
"Hoffwn annog unrhyw un a all fod ag unrhyw wybodaeth am eu lleoliad i roi gwybod i'r heddlu er mwyn eu dychwelyd i'w cartref cywir gyda chasgliad cenedlaethol Cymru er mwyn i bawb eu gweld a'u mwynhau."
Mae menyw 45 oed o Swydd Northampton a gafodd ei harestio fel rhan o'r ymchwiliad yn parhau ar fechnïaeth.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu 2500319180:
Casgliad o bum eitem aur o Ganol yr Oes Efydd o Gapel Isaf, Sir Gaerfyrddin
Casgliad o dair eitem aur o Ganol yr Oes Efydd o Landdewi-yn-heiob, Powys
Lanwla aur o Ddechrau'r Oes Efydd o Lanllyfni, Gwynedd
Casgliad o bedair breichled aur o Ganol yr Oes Efydd o Lanwrthwl, Powys