Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd Amanuele Mebrahtu o Dreganna, Caerdydd, ei adnabod ar ôl chwiliad helaeth o ddeunydd teledu cylch cyfyng a oedd yn ei ddangos ar droed ac yn ei gerbyd, yn teithio o ganol y ddinas i Cathays.
Darparodd ap ar ei ffôn, yr oedd yn ei ddefnyddio ar gyfer ei wasanaethau tacsi, leoliad byw fesul eiliad hefyd a oedd yn cyfateb yn union i'r hyn a welwyd ar y deunydd teledu cylch cyfyng.
Er bod archwiliad fforensig wedi ei gysylltu'n ddiweddarach â dillad y dioddefwr drwy'r DNA ar ei ffrog, parhaodd Mebrahtu i wadu mai ef oedd yn gyfrifol am yr ymosodiadau a ddigwyddodd ym mis Hydref a mis Rhagfyr 2024.
Roedd y gyrrwr Uber wedi ymosod yn rhywiol ar deithiwr ar ôl ei gyrru'n ôl i'w chartref a gofyn iddi am gwtsh. Ar achlysur arall, roedd wedi ymosod yn rhywiol ar fenyw arall ar ôl cynnig ei chario ar ei gefn i lawr rhes o risiau.
Parhaodd y dyn 28 oed i wadu'r ddau honiad ond fe'i cafwyd yn euog yn Llys y Goron Casnewydd o ymosodiad rhywiol drwy dreiddio ac ymosodiad rhywiol drwy gyffwrdd.
Cafodd Mebrahtu ei ddedfrydu i saith mlynedd a thri mis yn y carchar, gyda chyfnod trwydded estynedig o dair blynedd, yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth 4 Tachwedd.
Cafodd y diffynnydd hefyd ei wneud yn destun gofynion hysbysiad troseddwr rhyw a Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol am gyfnod amhenodol.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Shane Coombes o Heddlu De Cymru:
“Hoffwn ganmol dewrder a hyder y dioddefwyr wrth roi gwybod i'r heddlu, rhannu'r hyn a ddigwyddodd, a chefnogi'r ymchwiliad.
“Rwy'n gobeithio y bydd y canlyniad yn y llys yn rhoi rhywfaint o gysur iddynt bod cyfiawnder wedi cyrraedd y troseddwr a bod eu dewrder wedi helpu i amddiffyn y cyhoedd ehangach rhag niwed.
“Mae rheibiwr peryglus bellach oddi ar ein strydoedd.”
Nid ydym byth yn diystyru pa mor anodd yw hi i oroeswyr cam-drin rhywiol siarad yn agored a rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath.
Ond rydym yn gobeithio y bydd achosion fel hyn yn rhoi sicrwydd y byddwn yn gwrando ar ddioddefwyr, yn eu trin ag urddas a pharch, ac y byddant yn cael eu cefnogi drwy'r broses farnwrol.
Os ydych chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, ac nad ydych yn barod i roi gwybod i'r heddlu amdano eto, peidiwch â dioddef yn dawel. Gellir dod o hyd i gyfoeth o wybodaeth a manylion am wasanaethau cymorth yma.