Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Thomas Daley, o Lanrhymni, yw'r deliwr cyffuriau diweddaraf i gael ei garcharu, diolch i waith tîm Troseddau Cyfundrefnol Caerdydd a'r Fro.
Ddydd Llun, 10 Tachwedd, ymddangosodd gerbron Llys y Goron Caerdydd lle cafodd ei garcharu am dair blynedd ar ôl pledio'n euog i fod â chrac cocên a heroin yn ei feddiant ac am fod â chrac cocên a heroin yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi.
‘Live Tt B ..5 20 W .5 20 Ful Gram 40’
Byddai'r deliwr cyffuriau 23 oed yn anfon negeseuon fel yr un uchod i bron 100 o bobl ar y tro – mae'n dweud wrth bob derbynnydd bod ganddo gocên a'i fod yn ei werthu am £40 y gram.
Defnyddiodd ditectifs wedi'u hyfforddi'n arbennig dechnegau fforenseg ffonau symudol i ganfod manylion yr anfonwr, a dyma sut y cafodd Daley ei ddal.
Sylwodd swyddogion fod negeseuon a oedd yn gysylltiedig â chyffuriau yn cael eu hanfon mewn swp o ffôn Daley – a hynny, yn ddiarwybod iddynt ar y pryd – i ffôn roeddent yn ymchwilio iddo ar gyfer mater arall.
Bu modd iddynt gysylltu'r llinell gyffuriau â Thomas Daley ac, yn fwy penodol, canfod bod deiliad y llinell gyffuriau ar Countisbury Avenue ar adeg benodol – ar sail y data hynny, bu modd iddynt wirio deunydd teledu cylch cyfyng lleol ac adnabod Daley o'r deunydd hwnnw.
Ar 10 Hydref, cafodd Daley ei weld gan swyddogion mewn dillad plaen a oedd yn chwilio amdano yn gadael tŷ ei gariad, a chafodd ei arestio.
Ar y pryd, roedd gan Daley grac cocên a heroin yn ei feddiant, wedi'u cuddio yn ei ddillad isaf.
Llwyddodd swyddogion i brofi ei fod wedi anfon cyfanswm o 3,446 o negeseuon mewn swp yn ystod y cyfnod rhwng 15 Mehefin ac 17 Medi.
Cafodd Daley, 23 oed o Burnham Avenue, ei garcharu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau, 20 Tachwedd.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Adam Fenlon: “Mae delwyr cyffuriau yn ceisio cuddio eu gweithgareddau a byddant bob amser yn ceisio osgoi swyddogion, ond byddwn yn achub ar bob cyfle sydd ar gael i ni. Mae'r gwaith hwn yn aml yn gofyn am amynedd a dyfalbarhad, ond byddwn yn gwneud popeth sydd ei angen i sicrhau bod y rhai sy'n delio cyffuriau yn cael eu harestio a'u dwyn o flaen eu gwell.”
Anogir unrhyw un sy'n amau bod rhywun yn delio cyffuriau i ffonio 101 neu Crimestoppers ar 0800 555 111.