Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae person ifanc yn ei arddegau wedi'i gael yn euog ar ôl i swyddogion ei stopio a chanfod cyllell wedi'i chuddio yn ei fand gwasg.
Ar 13 Hydref, ychydig ar ôl 4pm, galwyd swyddogion i ardal breswyl yn y Barri oherwydd aflonyddwch a oedd yn cynnwys grŵp o bobl ifanc. Nododd yr unigolyn a roddodd wybod am yr helynt ei fod yn pryderu bod gan rywun arf yn ei feddiant.
Ar ôl i swyddogion gyrraedd y lleoliad, gwelsant rywun a oedd yn ateb y disgrifiad ar Main Street yn y Barri a gwnaethant stopio i'w ddal. Rhedodd y bachgen, 17 oed o ardal y Barri, i ffwrdd cyn i swyddog ei stopio yn y pen draw a chanfod cyllell yn ei fand gwasg.
Wrth i'r swyddog gymryd y gyllell oddi arno, ymyrrodd dyn, gan ymosod ar y swyddog a chwympodd y gyllell i'r llawr. Yna, cododd y dyn y gyllell, gan roi cyfle i'r person ifanc yn ei arddegau redeg i ffwrdd.
Cafodd y dyn ei arestio a'i gael yn euog yn ddiweddarach o ddau gyhuddiad o ymosod drwy daro gweithiwr argyfwng ac o fod â llafn cyllell / eitem lafnog finiog yn ei feddiant mewn man cyhoeddus. Cafodd orchymyn cymunedol am hyn.
Arestiwyd y bachgen 17 oed ychydig ddyddiau yn ddiweddarach ar 16 Hydref a'i gyhuddo yn fuan wedyn o fod â llafn cyllell / eitem lafnog finiog yn ei feddiant mewn man cyhoeddus. Ar 11 Tachwedd, cafodd orchymyn atgyfeirio naw mis ar ôl iddo bledio'n euog.
Dywedodd yr arweinydd troseddau cyllyll y Prif Arolygydd Jonathan Duckham: "Mae Heddlu De Cymru yn ymrwymedig i fynd i'r afael â throseddau cyllyll yn ein cymunedau ac rydym yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid er mwyn gwneud hynny.
"Mae ein dull gweithredu yn un amlochrog, gan leihau cyfleoedd i'r arfau hyn fynd i'r dwylo anghywir drwy atal cyllyll y bwriedir iddynt achosi niwed rhag cael eu gwerthu a'u cyflenwi a dinistrio'r rhai rydym yn dod ar eu traws.
"Hoffwn ddiolch i'r swyddogion hyn am eu dewrder a ddangosir yn y clip. Mae'n wyrth na chafodd unrhyw un ei anafu'n ddifrifol a bellach mae un gyllell yn llai yn ein cymuned diolch i'w gweithredodd cyflym."
Mae'n anghyfreithlon cario cyllell hyd yn oed os ydych yn gwneud hynny i'ch amddiffyn eich hun. Gall yr heddlu, ac athrawon yn yr ysgol, chwilio unrhyw un yr amheuir ei fod yn cario cyllell. Drwy gario cyllell, gallech gael cofnod troseddol neu ddedfryd o garchar hyd yn oed. Bydd hyn yn effeithio ar eich rhagolygon swydd yn y dyfodol ac a allwch deithio dramor i rai gwledydd. Os ydych yn pryderu ynghylch rhywun rydych yn ei adnabod yn cario cyllell, dywedwch wrth rywun rydych yn ymddiried ynddo – rhiant, athro, ffrind, neu'r heddlu. Gallwch hefyd roi gwybod am unrhyw beth rydych yn ei wybod am droseddau cyllyll yn gwbl ddienw drwy Fearless.
Ymgyrch sy'n mynd i'r afael â throseddau cyllyll yw 'Ddim yr Un', gyda'r nod o leihau nifer y troseddau cyllyll a nifer y bobl sy'n eu cyflawni yn Ne Cymru. Nod yr ymgyrch a arweinir gan bartneriaeth yw addysgu plant a phobl ifanc 11-16 oed am beryglon a chanlyniadau cario cyllell – dysgwch fwy yma: #DdimYrUn | Heddlu De Cymru