Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r ymgyrch yn dilyn newyddion bod 275,000 o bobl yn y DU wedi cael cymorth gan linell gymorth Stop It Now neu wasanaeth hunangymorth ar-lein y llynedd. Yng Nghymru, bu cynnydd o 34% yn nifer y bobl sy'n ceisio cymorth gan Stop It Now o gymharu â 2023.
Drwy gydweithio, mae'r heddlu yn bwriadu codi ymwybyddiaeth o raddfa a natur achosion o gam-drin plant yn rhywiol ar-lein yn yr ardal leol a sut i'w hatal. Mae hyn yn cynnwys edrych ar ddelweddau rhywiol o bobl o dan 18 oed a meithrin perthnasau rhywiol amhriodol ar-lein.
Mae'r ymgyrch yn ymwneud â chynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys ffilmiau ymgyrchu a gynhyrchwyd gan Sefydliad Lucy Faithfull, wedi'u dylunio'n benodol i atal pobl rhag edrych ar ddelweddau rhywiol o blant ar-lein neu gynnal sgyrsiau rhywiol â phlant ar-lein. Mae'r ymgyrch yn cyfeirio unrhyw un yng Nghymru sy'n pryderu am ei ymddygiad rhywiol ar-lein ei hun neu ymddygiad rhywun arall at linell gymorth Stop It Now er mwyn helpu i atal achosion o gam-drin plant yn rhywiol ar lein – cyn iddynt ddigwydd.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd, Wayne Bevan, Arweinydd yr Heddlu yng Nghymru ar gyfer Camfanteisio a Cham-drin yn Rhywiol ar Blant:
“Rwy'n falch o rannu bod y pedwar heddlu yng Nghymru wedi dod ynghyd i gefnogi ymgyrch Stop It Now gan Sefydliad Lucy Faithfull a'i ddull ataliol yn erbyn cam-drin plant yn rhywiol.
“Rydym yn gwybod bod plant yn treulio mwy a mwy o amser ar-lein a'u bod yn mwynhau defnyddio'r rhyngrwyd i chwarae gemau neu i siarad â'u ffrindiau y tu allan i'r ysgol. Dylent allu gwneud hyn yn ddiogel a heb y risg o ddioddef trosedd.
“Fodd bynnag, mae nifer bach o oedolion sy'n gweld platfformau gemau a chyfryngau cymdeithasol poblogaidd fel ffordd o gysylltu â phobl ifanc gyda'r bwriad o gamfanteisio'n rhywiol arnynt. Mae'r cyfnod o amser y mae'n ei gymryd i rywun dieithr gysylltu â phlentyn ar-lein yn gyflym iawn, a'n nod yw sicrhau bod plant yn parhau i fod yn ddiogel a'u bod yn cael eu hamddiffyn rhag yr ymddygiad rheibus hwn.
“Bydd yr heddlu bob amser yn cymryd camau pan fydd troseddau'n cael eu cyflawni, ond ceir mantais amlwg gan waith ataliol a chamu i mewn cyn i drosedd ddigwydd.
“Mae Sefydliad Lucy Faithfull yn cyflawni gwaith pwysig i atal ymddygiad troseddol posibl drwy ymgysylltu ag oedolion sy'n cydnabod eu bod yn cael meddyliau rhywiol am blant, sy'n poeni am eu hymddygiad eu hunain tuag at blant ar-lein, neu sydd wedi cael eu harestio am droseddau sy'n ymwneud â phlant.
“Drwy adnoddau ar-lein a llinell gymorth y sefydliad, caiff troseddwyr posibl eu dargyfeirio o gyflawni troseddau, sy'n atal plant rhag dioddef troseddau.
“Rwy'n sicr ein bod i gyd yn cytuno y dylem gymryd pob cam posibl i gadw plant yn ddiogel ar-lein, gan gynnwys gweithio gyda'r rhai hynny sy'n peri risg i bobl ifanc. Mae'r gwaith pwysig a wneir gan Sefydliad Lucy Faithfull yn rhoi'r cyfle i ni atal achosion o gam-drin cyn iddynt ddigwydd."
Dywedodd Rheolwr Sefydliad Lucy Faithfull Cymru, Claire Short:
“Mae troseddau rhywiol yn erbyn plant ar-lein yn parhau i effeithio ar gymunedau ledled Cymru. Mae'r bobl sy'n troseddu yn y ffordd yma yn dod o bob cefndir, ac nid oes un math o berson sy'n ymwneud ag ymddygiad o'r fath. Mae'r ymgyrch hon yn tynnu sylw at y mater, i godi ymwybyddiaeth o'r niwed y mae'n ei achosi ac, yn bwysig, y cymorth rydym yn ei gynnig.
"Rydym am i bobl yng Nghymru sy'n pryderu am eu hymddygiad ar-lein gysylltu â ni am gymorth cyn iddi ddod yn rhy hwyr. Gallwn eich helpu i ddod o hyd i lwybr allan - yn gyfrinachol, yn ddienw a heb farnu. Hefyd, rydym am i anwyliaid, gweithwyr proffesiynol neu unrhyw un yng Nghymru sy'n pryderu am ei feddyliau neu ei ymddygiad rhywiol ei hun neu rai rhywun arall tuag at blant i wybod y gall gael cymorth dienw a chyfrinachol gan Stop It Now er mwyn amddiffyn plant ac atal niwed."
Cysylltwch â Stop It Now ar 0808 1000 900 neu ewch i www.stopitnow.org.uk i gael cyngor a chymorth dienw. Mae Sefydliad Lucy Faithfull yn croesawu galwadau i'r llinell gymorth yn Gymraeg neu yn Saesneg.