Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu ar ôl cyflawni troseddau rhyw yn erbyn plant.
Cyflawnodd Mohammed Raihan, 22 oed o ganol dinas Abertawe, nifer o droseddau rhywiol yn erbyn dioddefwr yn ei harddegau ym mis Gorffennaf 2024.
Yn ddiweddarach, cysylltodd Raihan â'r dioddefwr i'w bygwth i roi gorau i'r achos a'i chwyn yn ei erbyn.
Plediodd Raihan yn ddieuog i bob cyhuddiad ond ar 30 Mehefin fe'i cafwyd yn euog o'r canlynol:
Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac ar Tachwedd 4, cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe i 15 o flynyddoedd yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Mark Wells: “Ar yr adeg hon, mae'n bwysig cydnabod dewrder y dioddefwr ifanc yn yr ymchwiliad hwn. Rwy'n gobeithio y bydd yn gallu symud ymlaen mewn ffordd gadarnhaol a chael rhyw fath o gysur.
“Roedd yr ymchwiliad hwn yn un cymhleth a hir, a hoffwn ddiolch i'r tîm amrywiol o ymchwilwyr a ditectifs sydd wedi rhoi o'u hamser i symud yr ymchwiliad yn ei flaen. Mae'n bwysig hefyd cydnabod gwaith caled asiantaethau partner wrth iddynt gefnogi'r dioddefwr ifanc drwy gydol y broses.
“Yn ystod ei dreial, ni ddangosodd Mohammed Raihan unrhyw edifeirwch ond gwnaeth gydnabod bod y dioddefwr yn agored i niwed. Mae'n anodd amgyffred wedyn ei fod wedi mynd ati i gymryd mantais o hyn yn y ffordd waethaf posibl.
“Os byddwch yn dioddef y math hwn o drosedd, rydym yn eich annog i roi gwybod i'r heddlu cyn gynted â phosibl. Byddwch yn cael eich cefnogi a bydd swyddogion yn trin pob achos gyda sensitifrwydd a phroffesiynoldeb.”