Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael dedfryd estynedig o 30 mlynedd yn y carchar ar ôl cael ei ganfod yn euog o nifer sylweddol o droseddau rhyw yn erbyn plant.
Cyflawnodd Adam Davies, 36 oed o'r Hafod, y troseddau hyn yn erbyn nifer o ddioddefwyr dros gyfnod o sawl blwyddyn.
Ym mis Gorffennaf 2023, honnodd un o ddioddefwyr Davies ei fod wedi ymosod yn rhywiol arni pan oedd hi'n iau. Digwyddodd y troseddau yn erbyn y dioddefwr hwn a dioddefwr arall dros gyfnod o sawl blwyddyn. Roedd y ddwy ferch o dan 13 oed ar adeg y gamdriniaeth.
Fel rhan o'r ymchwiliad i'r honiad hwn, cafodd dyfeisiau Davies eu hatafaelu a daethpwyd o hyd i luniau cam-drin plant yn rhywiol Categori A, B a C ar ei liniadur.
Ym mis Ebrill 2025, datgelodd dioddefwr gwrywaidd fod Davies wedi ei gam-drin yn rhywiol pan oedd rhwng 6 ac 8 oed.
Plediodd Davies yn ddieuog i restr hir o droseddau, ond fe'i cafwyd yn euog yn y llys o'r troseddau canlynol:
Mae Davies wedi cael dedfryd estynedig o 30 mlynedd yn y carchar, a bydd yn treulio 26 mlynedd o'r ddedfryd honno yn y ddalfa. Bydd yn y carchar am o leiaf 18 mlynedd.
Bydd yn droseddwr rhyw cofrestredig am weddill ei oes, ac yn destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Stacey Jones:
“Mae troseddau Adam Davies ymhlith y gwaethaf o'u math yn Abertawe. Cymerodd fantais o sawl plentyn mewn ffordd afiach i gyflawni gweithredoedd erchyll er mwyn ei bleser rhywiol anfoesol ei hun.
“Mae'n berygl aruthrol i blant, ac mae'r strydoedd yn llawer iawn mwy diogel i bobl ifanc nawr ei fod wedi cael ei anfon i'r carchar am gyfnod sylweddol iawn.
“Nid oedd Adam Davies yn poeni dim am sut y byddai ei droseddau yn effeithio ar fywydau ei ddioddefwyr, yn feddyliol ac yn gorfforol. Rydym yn talu teyrnged i ddewrder eithriadol y dioddefwyr a roddodd wybod i ni, ac yn gobeithio y gallant symud ymlaen gyda'u bywydau, gan wybod na allai Adam Davies gysylltu â nhw mwyach.”
Os yw'r stori hon wedi effeithio arnoch, cysylltwch â Heddlu De Cymru drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 62WN0407323.
Nid ydym byth yn diystyru pa mor anodd yw hi i oroeswyr cam-drin rhywiol siarad yn agored a rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath.
Ond rydym yn gobeithio y bydd achosion fel hyn yn rhoi sicrwydd y byddwn yn gwrando ar ddioddefwyr, yn eu trin ag urddas a pharch, ac y byddant yn cael eu cefnogi drwy'r broses farnwrol.
Os ydych chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, ac nad ydych yn barod i roi gwybod i'r heddlu amdano eto, peidiwch â dioddef yn dawel. Gellir dod o hyd i gyfoeth o wybodaeth a manylion am wasanaethau cymorth yma.