Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu ar ôl pledio'n euog i ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth A.
Bu David Davies, 36 oed o Gasllwchwr, yn destun gwarant chwilio yn ei gyfeiriad cartref ym mis Gorffennaf. Cafodd symiau mawr o gyffuriau, paraffernalia ac arian parod eu canfod yn ystod y warant. Ar ôl hyn, cafodd swyddogion eu harwain gan gudd-wybodaeth at uned hunan storio yr oedd Davies yn ei defnyddio, lle daethpwyd o hyd i swm sylweddol o gyffuriau a deunyddiau eraill.
Plediodd Davies yn euog i fod ag eiddo troseddol yn ei feddiant, bod a chocên a chanabis yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi, ymwneud â chyflenwi cocên, cetamin ac ecstasi, bod â resin canabis yn ei feddiant a gyrru cerbyd modur heb drwydded.
Mae wedi cael ei ddedfrydu i 10 mlynedd yn y carchar.
Mae partner Davies, Linzi Jones, 35 oed o Orseinon, hefyd wedi cael ei charcharu ar ôl iddi helpu Davies i gyflenwi cyffuriau a chasglu dyledion ar ei ran wedi iddo gael ei gadw yn y ddalfa.
Plediodd Jones yn euog i achos o ymwneud â chyflenwi cocên a bod ag eiddo troseddol yn ei meddiant.
Cafodd ei dedfrydu i ddwy flynedd ac wyth mis yn y carchar.




Dywedodd y Rhingyll Luke Tucker:
"Roedd David Davies a Linzi Jones yn ymwneud ag ymgyrch raddfa fawr o gyflenwi cyffuriau Dosbarth A ar strydoedd Abertawe a'r ardaloedd cyfagos.
"Bydd hyn wedi cael effaith ddifrifol ar y rhai a brynodd y cyffuriau a'u teuluoedd a'r cymunedau ehangach.
"Mae delio mewn cyffuriau yn parhau i fod yn bla y mae Heddlu De Cymru yn ymrwymedig i fynd i'r afael ag ef. Nid yw'r rhai sy'n ymwneud â'u masnachu yn poeni dim am lesiant neb arall – maent ond yn poeni am eu henillion ariannol.
"Mae David Davies wedi cael ei garcharu am gyfnod hir oherwydd ei raddfa troseddu. Mae'r strydoedd yn fwy diogel â Davies a Jones yn y carchar."
Mae mynd i'r afael â throseddau cyfundrefnol yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru a byddwn yn parhau i fynd ati'n ddiflino i fynd ar ôl troseddwyr er mwyn diogelu ein cymunedau rhag niwed.
Os byddwch yn amau bod rhywun yn delio cyffuriau neu'n poeni bod person ifanc neu blentyn neu oedolyn sy'n agored i niwed wedi cael ei dargedu gan grŵp troseddau cyfundrefnol, rhowch wybod i ni. Nid oes angen i chi fod yn bendant, dim ond yn bryderus.
Ffoniwch ni ar 101, neu gallwch gysylltu â Crimestoppers i roi gwybod yn ddienw os byddai'n well gennych wneud hynny – ar-lein neu drwy ffonio 0800 555 111. Os bydd rhywun mewn perygl uniongyrchol neu os bydd trosedd yn mynd rhagddi, dylech ffonio 999 bob amser.