Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau swyddog heddlu a fu'n gwasanaethu am gyfnod hir o amser gyda Heddlu De Cymru wedi cael eu cydnabod â Medalau Heddlu'r Brenin ar Restr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.
Mae Mark Travis a Danny Richards, sydd bellach wedi ymddeol ar ôl chwe degawd o wasanaeth rhyngddynt, yn cael Medal Heddlu'r Brenin am eu gwasanaeth neilltuol ym maes plismona.
Yn ystod ei amser fel prif gwnstabl cynorthwyol, cafodd Mark Travis – a ddangosodd ei ymrwymiad i sicrhau bod llais y dioddefwr wrth wraidd popeth – ddylanwad mawr ar y broses o sicrhau bod sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru yn llofnodi'r Siarter ar gyfer Teuluoedd mewn Profedigaeth drwy Drasiedi Cyhoeddus, gan eu rhwymo i ymateb i drasiedïau cyhoeddus mewn modd agored, tryloyw a gydag atebolrwydd.
Cynhaliwyd digwyddiad lansio ym Merthyr ym mis Mawrth 2025, lle roedd pobl mewn profedigaeth a goroeswyr trasiedïau cyhoeddus yn cynnwys Aberfan, Hillsborough, Tŵr Grenfell ac Arena Manceinion, yn bresennol.
Yn y cyfamser, mae Danny Richards – ditectif yng Nghaerdydd a gododd i reng prif gwnstabl cynorthwyol dros dro – wedi cael ei gydnabod am waith, gan gynnwys ei ffocws ar feithrin cydberthnasau cryfach ac agosach rhwng Heddlu De Cymru a chymunedau lleol.
Cafodd ei ymdrechion i fynd i'r afael â chasineb at fenywod ei gydnabod, yn ogystal â'i ymdrechion i helpu i sefydlu Cymdeithas Heddlu Mwslimaidd Heddlu De Cymru, yn dilyn y digwyddiadau ar 7 Hydref 2023, a'i arweinyddiaeth a'i dosturi a ddangosodd yn ei waith tuag at y gymuned Iddewig.
Dywedodd y Brif Gwnstabl, Jeremy Vaughan:
“Mae'n bleser gennyf glywed bod Mark a Danny wedi cael cydnabyddiaeth am eu blynyddoedd o wasanaeth i bobl ledled De Cymru a thu hwnt. Mae'r ddau yn haeddu'r gydnabyddiaeth am eu degawdau o waith ar ran cymunedau a dioddefwyr troseddau.
“Mae'r ddau bellach wedi ymddeol o blismona, ond bydd eu dylanwad cadarnhaol yn parhau am amser hir. Rwy'n ddiolchgar am bopeth a wnaeth y ddau yn eu gyrfaoedd ac yn eu llongyfarch ar gael Medal Heddlu'r Brenin.”