Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Mae 24 o e-feiciau ac e-sgwteri anghyfreithlon wedi cael eu cymryd oddi ar y ffyrdd diolch i ymgyrch arall ar y cyd â Chyngor Caerdydd.
Mae hyn yn golygu bod mwy na 200 o e-feiciau ac e-sgwteri wedi cael eu hatafaelu ers yr haf.
Gweithiodd swyddogion a staff y cyngor â'i gilydd ddydd Sul (30 Tachwedd) i barhau i fynd i'r afael â phryderon y gymuned am gerbydau wedi'u gyrru'n fecanyddol (MPVs), y cyfeirir atynt hefyd fel e-feiciau ac e-sgwteri anghyfreithlon.
Cafodd 24 o MPVs eu hatafaelu a chafodd pedwar unigolyn ei arestio.
Ceisiodd dyn redeg i ffwrdd ar ôl cael ei stopio yn gyrru MPV ar Lamby Way. Cafodd dyn 62 oed o Trowbridge ei arestio ar amheuaeth o fod â chrac cocên yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi.
Canolbwyntiwyd hefyd ar City Road a Heol Albany, yn ogystal â Lamby Way.
Dywedodd yr Arolygydd Tim Ursell, o Heddlu De Cymru: “Mae defnyddio e-feiciau ac e-sgwteri yn anghyfreithlon ac yn peri risg ddifrifol i gerddwyr a defnyddwyr y ffordd.
“Mae'r effaith y mae reidwyr e-feiciau gwrthgymdeithasol yn ei chael ar gymunedau yn cael ei chodi fel pryder yn aml.
“Rydym yn annog y cyhoedd i ddeall y gyfraith a gwneud dewisiadau diogel a chyfreithlon.”
#GweithreduDrosYGaeaf | Y Nadolig hwn, rydym yn rhoi sylw i waith ein Timau Plismona yn y Gymdogaeth a fydd yn gweithio'n galed i'ch cadw chi'n ddiogel a dwyn troseddwyr i gyfrif.
