Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ddydd Nadolig, tra bydd llawer o bobl yn ein cymunedau yn agor anrhegion, yn mwynhau eu twrci ac yn dathlu traddodiadau Nadoligaidd, bydd cydweithwyr ym mhob rhan o'n gwasanaethau yn treulio eu diwrnod mewn ffordd wahanol iawn.
Bydd y bobl a gaiff eu crybwyll yma, p'un a fyddant mewn lifrai, yn gwisgo penset neu ar alwad, yn gweithio ar Ddydd Nadolig er mwyn sicrhau diogelwch pobl ledled ein cymunedau.

Andrew Hill, Goruchwyliwr y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus:
“Mi fydda i'n gweithio rhwng 12pm a 10pm Ddydd Nadolig, gan oruchwylio tîm o staff a fydd yn ateb galwadau 999 ac 101.
“Bydd ein tîm yn cael pob math o alwadau ar Ddydd Nadolig, felly ni allwn ragweld beth fydd yn ein cyrraedd ag unrhyw sicrwydd.
“Er mai ein prif flaenoriaeth yw bod yn broffesiynol a darparu'r gwasanaeth gorau posibl i gymunedau, rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau bod Dydd Nadolig mor hamddenol â phosibl i'n cydweithwyr yn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus. Byddwn yn trefnu bwffe Nadoligaidd ac yn gwisgo siwmperi, hetiau ac ategolion Nadoligaidd eraill – rhywbeth bach i geisio cynnal hwyl yr ŵyl.
“Pe bawn i ddim yn gweithio ar Ddydd Nadolig, mi fyddwn i'n ei dreulio gyda fy ngwraig. Fodd bynnag, mi fydda i'n gweithio ar Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan felly mi fydd hi'n ymweld â'i theulu pan fydda i yn y gwaith ac yna byddwn ni i gyd yn dathlu gyda'n gilydd ar yr 28ain. Byddwn ni'n trin y diwrnod hwnnw fel Dydd Nadolig a chael cyfle i gyfnewid anrhegion a dathlu.”

Kaylee Noble, Cynorthwy-ydd Lles Anifeiliaid, Adran Cŵn a Cheffylau:
“Bydd Dydd Nadolig fel unrhyw ddiwrnod arall i mi. Bydd y cŵn a'r ceffylau yn cael yr un gofal a sylw ag arfer. Byddwn yn eu bwydo, yn glanhau eu stablau a'u cytiau ac yn mynd â nhw am rywfaint o ymarfer corff. Ond bydda i'n ceisio gwneud pethau'n Nadoligaidd ac yn gwisgo het Siôn Corn efallai!
“Bydda i a fy nghydweithwyr yn ceisio gwneud yn fawr o fod yn y gwaith ar Ddydd Nadolig. Byddwn yn dod â bwyd blasus i ginio ac yn chwarae caneuon Nadoligaidd. Er ein bod ni yn y gwaith, gallwn fwynhau rhywfaint o hwyl yr ŵyl o hyd.
“Byddwn yn gwneud yn siŵr bod y cŵn a'r ceffylau yn rhan o'r hwyl hefyd a byddan nhw'n cael danteithion Nadoligaidd. Bydd y ceffylau yn cael rhwydi gwair siâp hosan Nadolig yn llawn moron, a bydd y cŵn yn cael trîts â blas arbennig.
“Bydda i'n dathlu'r Nadolig ar ôl fy shifft. Mae aelodau o fy nheulu yn y swydd hefyd, felly maen nhw'n deall ac yn cefnogi hynny'n llawn – sy'n gwneud i mi deimlo'n lwcus. Bydda i'n ffodus i dreulio'r diwrnod gyda Carter hefyd, un o'n Cŵn Llesiant, sydd bob amser yn llwyddo i roi gwên ar wynebau pobl – yn enwedig yn ei het Siôn Corn!”

Yr Uwch-arolygydd Jason Herbert, Pennaeth Gwasanaethau'r Ddalfa:
“I fi, teulu yw canolbwynt y Nadolig. Bydda i'n dechrau'r diwrnod gartref ac yna'n mwynhau cinio teulu mawr – rhywbeth sy'n teimlo hyd yn oed yn fwy arbennig nawr bod y plant wedi tyfu i fyny ac un wedi symud allan. Mae anrhegion wedi dod yn llai o flaenoriaeth dros y blynyddoedd, ond rhannu pryd gyda'n gilydd sydd wir yn bwysig.
“Yn hwyrach yn y prynhawn, bydda i'n dechrau paratoi ar gyfer fy shifft nos, gan fynd i'r gwaith tua 6pm. Fel Comander Aur a Phennaeth Gwasanaethau'r Ddalfa, fy rôl i yw arwain rheolaeth strategol gyffredinol y Gwasanaeth, ond hefyd sicrhau bod pawb sy'n gweithio, ac yn gwneud gwaith hanfodol iawn, yn cael diolch, yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, ac yn cael eu cefnogi i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'n cymunedau.
“Rwy'n edrych ymlaen at dreulio rhywfaint o amser allan gyda'n timau sydd ar ddyletswydd. Rwyf wedi gweithio sawl Nadolig dros y blynyddoedd, ac mae ymroddiad a hwyliau da ein staff sy'n gadael eu teuluoedd er mwyn cadw De Cymru yn ddiogel – a hynny â gwên ac ysbryd y Nadolig – bob amser yn creu argraff arnaf.
“Un o'r uchafbwyntiau i mi yw ymweld â dalfeydd a sgwrsio â fy nhimau nos. Gan fod llai o negeseuon e-bost a chyfarfodydd, mae'n gyfle gwych i wrando a chysylltu.
“Pe bawn i ddim yn gweithio, byddai'r noson yn llawn bwyd, gemau a ffilmiau – y traddodiadau teuluol arferol. Eleni, fodd bynnag, mae un o fy meibion hefyd yn gweithio shifft ar nos Nadolig yng Nghaerdydd, felly mae siawns y bydda i'n ei weld pan fydda i ar grwydr.
"Mae Heddlu De Cymru wir yn gymuned glòs, ac mae treulio rhan o'r Nadolig gyda'n staff ar y rheng flaen yn fy atgoffa pa mor ffodus ydw i i fod yn rhan o'r tîm hwn ac mewn rôl lle galla i helpu i wneud gwahaniaeth.”

Dawn Bellshaw-Jones, Goruchwyliwr HOLMES, Tîm Ymchwilio i Droseddau Mawr:
“Bydda i'n gweithio Ddydd Nadolig, a fydd yn golygu gwirio a monitro'r digwyddiadau sydd wedi cymryd lle dros nos. Bydda i'n gwneud hyn o bell o gartref a bydd fy ngliniadur a fy ffôn gerllaw drwy'r dydd – rhag ofn i mi gael galwad gan fy Mhrif Arolygydd.
“Er na allaf ragweld yn sicr y bydda i'n cael galwad, rwy'n gwybod o fy mhrofiadau blaenorol y gall hyn ddigwydd, felly rwyf wastad yn ymwybodol. Pe bawn i'n cael galwad, byddai ar gyfer digwyddiad neu drosedd ddifrifol lle byddai'n rhaid rhoi system HOLMES ar waith. Rydym yn defnyddio'r system hon i reoli a chydgysylltu ymchwiliadau a digwyddiadau mawr a chymhleth, a lladdiadau yn arbennig.
“Bydda i'n dathlu'r Nadolig gartref gyda fy nheulu, sy'n cynnwys fy nau ŵyr, sy'n bedair a chwech oed. Maen nhw i gyd yn gwybod y bydda i ar alwad Ddydd Nadolig a Gŵyl San Steffan ac maen nhw'n deall yn llwyr ac yn gefnogol. Mae gennym gynllun 'B' ar waith, cogydd wrth gefn, rhag ofn y bydda i'n cael fy ngalw i ymateb i ddigwyddiad.”

PC Owain Davies, Swyddog Cŵn yr Heddlu, Ymgyrchoedd Arbenigol:
“Y Nadolig hwn, bydda i'n gweithio rhwng 7am a 7pm. Ni allwn fyth ragfynegi sut y bydd y diwrnod yn mynd, ond un peth rydym yn ei wybod yw y bydd yn cynnwys digon o ymarfer corff i'n cŵn, cwrdd â chydweithwyr ac ymateb i unrhyw beth y cawn ein galw i ymateb iddo.
“Rwyf wedi gweithio ambell Nadolig dros y blynyddoedd ac, er ei fod yn amser hwyliog a hapus i rai, gall fod yn anodd i eraill. Mae chwilio am bobl o bob oed sydd ar goll neu'n agored i niwed wedi dod yn gyffredin dros y blynyddoedd yn anffodus. Rydym hefyd wedi delio ag achosion o dorri i mewn i siopau a busnesau sydd wedi cael eu targedu gan ladron bachu cyfle.
“Dros y blynyddoedd, rydym hefyd wedi cael ein galw i rai digwyddiadau annisgwyl iawn. Un Nadolig, bu'n rhaid i ni ymateb i achos o dorri allan – gan gi a oedd wedi dianc o gartref y teulu ar ôl bwyta rhywfaint o'r cinio Nadolig!
“Bydd pawb sy'n gweithio yn ein tîm yn yr un sefyllfa ar Ddydd Nadolig – felly gobeithio y bydd amser gennym i gael brecwast neu frecinio Nadoligaidd rhyw ben yn ystod y shifft. Gan y bydd pob un ohonom yn yr un sefyllfa, rwy'n siŵr y byddwn yn ceisio gwneud pethau mor Nadoligaidd â phosibl.
“Pe bawn i ddim yn gweithio, mae'n debyg y byddwn i'n treulio'r diwrnod gyda fy rhieni, fy mrawd a'i deulu ifanc. Rwy'n mynd i geisio galw i'w gweld gydag anrhegion yn fuan yn y bore cyn fy shifft os galla i. Bydda i'n bendant yn eu gweld yn nes ymlaen y noson honno ar ôl gorffen fy shifft!
“Rydym am geisio gwneud yn siŵr bod cŵn yr heddlu yn mwynhau Dydd Nadolig hefyd. Mae'r ddau rwy'n eu trin, PD Jax a PD Scout, wedi ysgrifennu eu llythyrau at Siôn Cŵn a byddan nhw'n bendant ar y rhestr cŵn da. Maen nhw wedi bod yn ardderchog eto eleni ac wedi gofalu amdana i, fy nghydweithwyr a'n cymunedau. Rydym yn hyderus y bydd Siôn Cŵn yn dod â theganau a thrîts iddyn nhw!”

Yr Arolygydd Craig Bannister, Rheolwr Digwyddiadau'r Heddlu, Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus:
“Bydda i'n gweithio Ddydd Nadolig fel Rheolwr Digwyddiadau'r Heddlu. Rwy'n gyfrifol am Ystafell Reoli'r Heddlu a fi sy'n bennaf cyfrifol am yr ymateb plismona i bob galwad am wasanaeth y mae'r heddlu yn ei chael – gan wneud yn siŵr bod adnoddau cywir yr heddlu yn cael eu hanfon ac, yn hollbwysig, ein bod yn ymateb yn unol â'r byrder sydd ei angen. Mae fy shifft yn dechrau am 6am a bydd Rheolwr Digwyddiadau'r Heddlu arall yn cymryd drosodd am 2pm i weithio'r shifft prynhawn.
“Bydd fy nyletswyddau yn cynnwys dyrannu swyddogion trosglwyddo i'r sianeli radio amrywiol sy'n cwmpasu ardal yr heddlu, monitro lefel y galwadau 999 sy'n cyrraedd, adolygu galwadau sy'n aros am wasanaeth er mwyn sicrhau ein bod yn blaenoriaethu presenoldeb mewn digwyddiadau yn ôl y risg, a rheoli adnoddau arbenigol amrywiol fel swyddogion arfog, swyddogion plismona'r ffyrdd, timau cymorth tiriogaethol, swyddogion cŵn a hyd yn oed hofrennydd yr heddlu.
“Ddydd Nadolig, byddwn yn parhau i gael llawer o'r galwadau arferol y byddem yn eu cael ar unrhyw ddiwrnod arall, fel digwyddiadau domestig a bwrgleriaethau. Mae'n dorcalonnus clywed am bobl yn torri i mewn i gartrefi teuluoedd ac yn dwyn eu hanrhegion Nadolig, neu deuluoedd sy'n byw gyda chanlyniadau digwyddiadau domestig difrifol.
“Byddwn hefyd yn ymateb i bobl ar draws ardal yr heddlu sy'n wynebu argyfwng iechyd meddwl oherwydd gall fod yn adeg anodd o'r flwyddyn i bobl am amrywiaeth o resymau. Yn anffodus, rydym hefyd yn debygol o weld gwrthdrawiadau traffig ffyrdd difrifol neu angheuol hyd yn oed ar ein rhwydweithiau ffyrdd, ac er gwaethaf ein hymgyrchoedd blynyddol am yfed a gyrru dros y Nadolig, byddwn yn dal i weld pobl yn cymryd risgiau ac yn gyrru dan ddylanwad sydd, yn llawer rhy aml, yn arwain at ganlyniadau angheuol neu sy'n newid bywyd.
“Mae ychydig o gydweithwyr wedi gwirfoddoli i wneud brecwast i holl dimau'r ystafell reoli ar Ddydd Nadolig felly, os bydd modd, byddwn yn ceisio cael brecwast Nadoligaidd gyda'n gilydd rhyw ben. Byddwn hefyd yn gwneud ein gorau i gadw morâl yn uchel rhwng galwadau. Y llynedd, cafwyd dadleuon am y ffordd orau o rostio tatws, a arweiniodd at godi aeliau a digon o chwerthin.
“Rwyf wedi gweithio dros 18 Nadolig ers ymuno â'r Heddlu, ac er nad yw meddwl am fynd i'r gwaith ar Ddydd Nadolig byth yn bleserus, mae'r cyfeillgarwch wedi bod yn heintus ac yn bendant wedi helpu. Rydych chi weithiau'n gadael y gwaith gan deimlo eich bod wedi treulio'r diwrnod gyda theulu.
“I mi, fy ffrindiau fydd canolbwynt y Nadolig hwn, ac mae llawer ohonynt hefyd yn gweithio i'r heddlu neu mewn gwasanaethau brys eraill. Rwyf wedi cael gwahoddiad i ginio Nadolig hwyr a bwffe ar Ŵyl San Steffan ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at hynny. Bydd yn rhoi cyfle i bob un ohonom rannu rhywfaint o hwyl yr ŵyl, myfyrio ar 2025 a thrafod addunedau Blwyddyn Newydd na fyddwn yn eu cadw siŵr o fod!”

Y Ditectif Brif Arolygydd Matt Davies, Tîm Ymchwilio i Droseddau Mawr:
“Bydda i'n treulio Dydd Nadolig ar alwad fel un o Uwch-swyddogion Ymchwilio'r Heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Bydda i'n cael fy nghefnogi gan dditectif gwnstabl, a byddwn yn adolygu'r crynodeb dyddiol o ddigwyddiadau, ymosodiadau difrifol, ac unrhyw farwolaethau sydyn y rhoddwyd gwybod amdanynt yn ystod y 24 awr flaenorol.
“Bydda i'n cysylltu â'r Uwch-swyddogion Ymchwilio eraill sydd ar alwad hefyd i weld a oes angen cyngor gan yr adran Troseddau Mawr, rhagor o gymorth neu gamau mabwysiadu ffurfiol. Yna bydda i'n ymuno â chyfarfod tactegol a bydda i'n parhau i fod ar alwad tan 8am ar Ŵyl San Steffan, pan fydda i'n trosglwyddo'r awenau.
“O ran galwadau, galla i ddisgwyl clywed am unrhyw laddiadau a amheuir neu farwolaethau sydyn amheus, ymosodiadau difrifol lle mae'r anafiadau yn peryglu bywyd a'r dioddefwr yn annhebygol o oroesi, ac unrhyw droseddau sy'n mynd rhagddynt fel herwgipio neu lathruddo. Byddwn hefyd yn rhan o ymchwiliadau i unigolion coll risg uchel lle yr amheuir bod elfen droseddol.
“O ran y Nadolig ei hun, os bydd pethau'n dawel, rwy'n gobeithio gallu ymuno â fy ngwraig a'r teulu yn nes ymlaen yn y bore, a dathlu yn y ffordd arferol, ond gan gadw un llygad ar y ffôn. Bydd yn rhaid i'r gwledda Nadoligaidd llawn aros tan Ŵyl San Steffan!”