Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau unigolyn wedi cael eu dyfarnu'n euog o lofruddio Kamran Aman yn y Barri.
Cafodd swyddogion yr heddlu eu galw i achos o drywanu ar Barry Road ychydig cyn hanner nos, nos Lun 30 Mehefin.
Bu farw'r tad i un, Kamran, a chafodd ymchwiliad i'w lofruddiaeth ei lansio.
Cafodd dau fachgen, 16 a 17 oed, o Lanilltud Fawr, eu harestio gerllaw funudau ar ôl i Heddlu De Cymru dderbyn galwad 999.
Gwnaethant bledio'n euog i ddynladdiad ond gwnaethant wadu llofruddiaeth.
Yn dilyn treial yn Llys y Goron Caerdydd, maen nhw wedi cael eu canfod yn euog heddiw.
Caiff y ddau unigolyn eu dedfrydu ym mis Chwefror.
Dywedodd yr Uwch-swyddog Ymchwilio, Ditectif Arolygydd Kath Barry, o Heddlu De Cymru:
“Roedd Kamran yn ŵr, yn dad, yn fab, yn frawd ac yn ewythr annwyl iawn. Roedd yn boblogaidd ac yn aelod hoffus iawn o'i gymuned.
“Roedd Kamran yn mynd â nwyddau i'w fam oedrannus ar ôl bod yn siopa iddi pan gyflawnwyd yr ymosodiad direswm hwn, gan ddau unigolyn nad oedd yn eu hadnabod.
“Wnaeth Kamran ddim byd i haeddu hyn.
“Gallai neb fod wedi rhagweld y trais ac mae'r cyfan hyd yn oed yn fwy brawychus o glywed y gamdriniaeth hiliol ffiaidd a ddefnyddiwyd cyn, yn ystod ac ar ôl yr ymosodiad, a recordiwyd ar fideo.
“O fewn munudau, newidiodd bywydau teulu Kamran am byth, ac maent yn dal i geisio amgyffred sut y gallai hyn fod wedi digwydd, yn enwedig y tu allan i'r tŷ sydd wedi bod yn gartref iddynt am bron i 20 mlynedd.
“Maent wedi ymddwyn yn urddasol ac wedi dangos hunanfeddiant anhygoel yn ystod yr achos, er eu bod wedi gorfod gwrando ar fanylion annioddefol ei farwolaeth.
“Ar ran Heddlu De Cymru, hoffwn ddiolch i drigolion Barry Road a wnaeth ymdrech ddewr i geisio achub bywyd Kamran ar noson yr ymosodiad ac a fu'n dystion amhrisiadwy a chwaraeodd rôl hollbwysig wrth sicrhau'r euogfarnau heddiw.
“Hoffwn hefyd gydnabod dealltwriaeth y gymuned leol, ac yn enwedig Cymuned Fwslimaidd y Barri, wrth iddynt aros yn amyneddgar i ffeithiau'r achos gael eu clywed yn y llys.
“Ni fydd dim byth yn llenwi'r bwlch ym mywydau'r bobl a oedd yn caru Kamran ac sydd wedi dioddef y dorcalon o'i golli yn yr amgylchiadau mwyaf dinistriol.
“Rydym yn croesawu'r euogfarnau yn y llys heddiw ac er ein bod yn gobeithio, gydag amser, y gall aelodau teulu Kamran ailadeiladu eu bywydau, gwyddom y bydd Kamran yn eu meddyliau bob amser.”
Teyrnged gan Khaleela, gwraig Kamran:
“Byddai Kamran yn goleuo'r ystafell gyda'i bersonoliaeth enfawr. Roedd ganddo galon fawr a byddai bob amser yn mynd allan o'i ffordd i helpu eraill; i wneud yn siŵr bod pawb arall yn iawn.
“Roedd yn garedig i bawb ac roedd e'n rhywun y gallech chi ddibynnu arno pan oedd angen. Ni wnaeth fy siomi erioed.
“Bydd cyfarfod Kamran bob amser yn un o'r pethau mwyaf prydferth a ddigwyddodd i mi erioed.
“Roedd yn fwy na gŵr; Fe oedd fy ffrind gorau a fy nghariad.
“Pe bai rhywun yn gofyn i fi ddisgrifio Kamran mewn tri gair, byddwn i'n dweud ffyddlon, cariadus a thosturiol.
“Ffyddlon am ei fod yn ŵr teyrngar a ddangosodd ymroddiad i mi ac a wnaeth fy nghefnogi ac aros wrth fy ochr drwy bob her, fel y byddai'n ei wneud i aelodau eraill o'i deulu a'i ffrindiau hefyd.
“Cariadus, roedd ganddo galon fawr ac roedd yn serchus. Byddai'n dangos cynhesrwydd, nid yn unig drwy ei eiriau ond drwy ei weithredoedd. Roedd Kamran yn gwbl driw i'w deulu a'r bobl oedd yn bwysig iddo. Roedd ei enaid yn bur; Roedd ganddo galon mor lân.
“Tosturiol am y byddai Kamran yn teimlo poen a thrafferthion pobl eraill fel ei boen a'i drafferthion ei hun. Roedd bob amser yn mynd allan o'i ffordd i helpu eraill a'r bobl a oedd bwysicaf iddo heb fyth ddisgwyl dim yn ôl.
“Roedd yn dad cariadus i blentyn sydd nawr ar goll ac yn byw heb ei gariad, ei ofal a'r diogelwch roedd yn ei gynnig iddi. Dydy ei harwr, y person yr oedd yn ei garu a'i edmygu, ddim yma mwyach.
“Bydd yn tyfu i fyny heb ddwylo tyner a chariadus ei thad. Ni fydd bywyd i ni fyth yr un fath heb Kamran. Mae twll yn ein calon na all fyth gael ei lenwi; Poen na fydd byth yn mynd.
“Heb Kamran, rydym yn anghyflawn. Y diwrnod y bu farw, bu farw rhan ohonom ni gydag ef.”
Teyrnged gan fam Kamran, Shenaz:
“Yn enw Allah, y mwyaf rhadlon a thrugarog. Bydded heddwch a bendith arnoch i gyd.
“Rwyf wedi colli fy mab hyfryd Kamran a wnaeth roi cymaint o lawenydd, cymorth a heddwch i mi.
“Ar noson y digwyddiad, roedd Kamran wedi dod draw i'm gweld a gwneud yn siŵr bod popeth yn iawn.
“Ond yna clywais sŵn gweiddi y tu allan. Ychydig a wyddwn mai Kamran ydoedd. Pan edrychais y tu allan, gwelais ef yn llonydd ar y llawr. Mae'r galar rwy'n ei deimlo fel mam yn annirnadwy.
“Mae'n peri loes i mi o hyd nad oeddwn i wedi gallu ei ddal, bod yn agos iddo, ar yr adeg pan roedd arno fy angen fwyaf.
“Hyd yn oed yn ystod ei funudau olaf ar y ddaear, roedd yn dal i feddwl amdanaf pan ddywedodd wrth gymydog am beidio â rhoi gwybod i mi. Dyna faint roedd e'n fy ngharu.
“O Allah rho baradwys i'm mab. Mae wedi dychwelyd atat; mae'n eiddo i ti.
“Bendithia ei wraig a bendithia ei ferch a fydd yn tyfu i fyny heb dad i ofalu amdani.
“Dyma fy ngweddi bob amser.
“Tyfodd Kamran i fyny heb dad hefyd ar ôl i'w dad farw pan oedd Kamran yn 6 oed. Mae'n eironig bod Kamran hefyd wedi gadael y byd hwn gan adael ei ferch heb dad.”
Datganiad gan y teulu:
“Yn wir, rydym yn eiddo i Allah ac iddo ef y byddwn yn dychwelyd.
“Mae ein calonnau yn crynu â galar a dicter wrth i ni anrhydeddu cof Kamran Aman, mab annwyl, gŵr ffyddlon, tad cariadus a ffrind teyrngar.
“Cafodd bywyd Kamran ei gipio mewn ymosodiad hiliol disynnwyr a chiaidd. Nid yn unig y cafodd ei gipio oddi wrthym; cafodd ei gipio mewn ffordd dreisgar. Nid yn unig y cafodd ei golli; cafodd ei ddwyn oddi wrth y bobl a oedd yn ei garu fwyaf.
“Yr hyn sy'n gwneud ei boen yn ddyfnach yw bod elfen hiliol atgas i'r ymosodiad erchyll hwn sy'n ein gadael wedi ein clwyfo nid yn unig gan y trais ei hun ond gan y ffaith bod Kamran wedi cael ei dargedu am bwy ydoedd.
“Ni ddylai unrhyw deulu nac anwyliaid fyth gario'r fath faich.
“Nid eiliad o alar yn unig yw ei golled, mae'n dorcalon, yn anghrediniaeth, yn ddicter ac yn glwyf na fydd byth yn cau.
“Ond yng nghanol y dinistr hwn, trodd y teulu at Allah, sef yr un sy'n gweld, sy'n gwybod, a fydd yn dod â chyfiawnder.
“Boed i Allah gyfnewid ei eiliadau olaf o ddioddefaint am heddwch tragwyddol.
“Boed i Allah dy amgylchynu â thrugaredd Kamran Aman a'n hailuno gyda thi, mewn man lle na all casineb na thrais gyffwrdd â ni byth eto. Amen.”
Mae gan Dde Cymru draddodiad hir a balch o gydnabod, dathlu ac amddiffyn cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Gofynnir i unrhyw un sydd â phryderon am droseddau casineb gysylltu â Heddlu De Cymru yn gyfrinachol.
Trosedd casineb yw unrhyw drosedd a ysgogir gan elyniaeth ar sail hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd neu hunaniaeth drawsryweddol.
Cysylltwch â Heddlu De Cymru drwy un o'r ffyrdd canlynol.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.