Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Gaerdydd a ddefnyddiodd ei fflat foethus yng nghanol y ddinas fel lleoliad i ddynion ifanc a oedd yn gweithio fel puteiniaid ac a enillodd ddegau o filoedd o bunnoedd drwy wneud hynny wedi cael ei garcharu.
Cafodd Dafydd Evans, o Fflatiau'r Aes, Caerdydd, ei garcharu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun 22 Rhagfyr, ar ôl cael ei ganfod yn euog gan reithgor o reoli gweithgarwch puteindra er mwyn gwneud arian, bod â lluniau anweddus o blant yn ei feddiant, a chaffael eiddo anghyfreithlon, sef arian.
Daeth at sylw Tîm Camfanteisio Heddlu De Cymru ar ôl i ddyn o Dwrci gysylltu â'r Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern. Roedd Evans wedi cwrdd â'r dyn ar wefan sy'n ceisio rhoi pobl mewn cysylltiad â theithwyr sy'n chwilio am rywle i aros. Daeth y chwythwr chwiban yn amheus a nododd agwedd ffiaidd Evans, o'r hyn a rannodd mewn sgyrsiau ar-lein.
Dywedodd Evans wrtho ei fod yn rhedeg busnes tylino yng nghanol dinas Caerdydd, a oedd yn cynnwys lleoliad bras ar fap a drws ffrynt a chyntedd y fflat yr oedd yn byw ynddi yn Fflatiau'r Aes, ac roedd y wybodaeth hon yn rhan hanfodol o ymchwiliad dilynol yr heddlu.
Roedd Dafydd Evans gartref pan gynhaliodd swyddogion Heddlu De Cymru ymholiadau arestio ar 3 Gorffennaf 2023. Daethant o hyd i wely tylino yng nghornel yr ystafell fyw, cyfarpar rhyw gan gynnwys condomau ac ireidiau, a dillad isaf bechgyn. Daeth swyddogion hefyd o hyd i beiriant talu â cherdyn yn y fflat. Roedd nifer o ffonau symudol ar y gwely a chafodd y ffonau hyn eu hatafaelu. Cynhaliwyd archwiliadau fforensig ar bob un ohonynt.
Datgelodd swyddogion dystiolaeth helaeth o droseddu ar y dyfeisiau hynny; roedd cyfrifon WhatsApp a oedd yn eiddo i Evans yn cynnwys negeseuon a anfonwyd ganddo yn dangos plant yn cael eu cam-drin. Gwnaethant ddatgelu hefyd ei fod yn cynnig cyfathrach rywiol gyda dynion ifanc a oedd yn gweithio iddo, a'i fod yn barod i deithio i wledydd eraill i gyfarfod â chleientiaid.
Dangosodd ei gyfriflenni banc ei fod o bosibl wedi gwneud cymaint â £40k o'i droseddau.
I ddechrau, cafodd Evans ei ryddhau ar fechnïaeth gydag amodau a oedd yn cynnwys peidio â chael unrhyw un yn ei fflat ond dangoswyd ei fod wedi torri'r amodau hynny pan gynhaliodd swyddog wiriadau mechnïaeth. Aeth ar ffo wrth yr heddlu ond cafodd ei arestio mewn gwesty ychydig ddyddiau'n ddiweddarach a'i gadw yn y ddalfa.
Yn dilyn treial ar ddydd Gwener 19 Rhagfyr, cafwyd Dafydd Evans yn euog o reoli gweithgarwch puteindra er mwyn gwneud arian, caffael eiddo troseddol - sef arian, a dau achos o fod â lluniau anweddus Categori A ac C o blentyn yn ei feddiant.Ddydd Llun 22 Rhagfyr, cafodd ei garcharu am 45 mis yn Llys y Goron Merthyr Tudful.
Dywedodd y swyddog a fu'n ymwneud â'r achos, y Ditectif Gwnstabl Robyn Allen: “Mae Dafydd Evans yn bedoffilydd cyfrwys a wnaeth filoedd o bunnoedd yn rhedeg ei fenter fudr o fflat foethus yng nghanol dinas Caerdydd.
“Manteisiodd ar bobl agored i niwed a'u defnyddio fel caethweision rhyw er mwyn elwa'n ariannol a bodloni ei ffantasïau afiach ac erchyll.
“Rydym wedi rhannu'r wybodaeth y daethom o hyd iddi yn ystod ein hymchwiliad â phartneriaid rhyngwladol, gan gynnwys heddluoedd ledled y byd, er mwyn sicrhau y gellir hefyd arestio unrhyw un a oedd yn rhan o'i weithgareddau ac i sicrhau y gall unrhyw ddioddefwyr eraill gael yr help a'r cymorth sydd eu hangen arnynt.
“Os oes unrhyw ddioddefwyr eraill, byddwn yn eu hannog i gysylltu â ni drwy 101 neu i ffonio'r Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern ar 08000 121 700.”
Mae Heddlu De Cymru wedi atafaelu dros £40k o'i gyfrifon banc ac yn cymryd camau o dan y Ddeddf Enillion Troseddau i sicrhau nad yw'n elwa'n ariannol ar ei droseddau.