Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Llun o Kenneth Crane
Mae dyn o'r Barri a wnaeth gloi menyw y tu mewn i gyfeiriad cyn ei threisio wedi cael ei garcharu.
Gwnaeth Kenneth Crane, 43 oed, i'w ddioddefwraig deimlo am ei bod am ladd ei hun ar ôl misoedd o gam-drin rhwng mis Medi, 2024 a mis Ebrill, 2025.
Ar un achlysur gwnaeth ei chloi y tu mewn i gyfeiriad a mynnu gweld negeseuon ar ei ffôn. Y bore canlynol, gwnaeth ei gorfodi i gyflawni rhyw geneuol arno a'i threisio.
Ar achlysur arall, cydiodd mewn cyllell gegin a'i dal at wyneb ei ddioddefwraig, gan fygwth ei niweidio pe bai'n gwrthod rhoi ei ffôn iddo. Taflodd gwpanaid o goffi drosti gan ei gorfodi i'w lanhau, cyn ei gwthio yn erbyn ffrâm drws a'i thagu.
Dywedodd y ddioddefwraig wrth yr heddlu y byddai'n bygwth rhannu lluniau preifat ohoni ar y cyfryngau cymdeithasol.
Ar ôl misoedd o gam-drin, cysylltodd y ddioddefwraig â Heddlu De Cymru a chafodd Crane ei arestio - cafodd ei gyhuddo o gyfres o droseddau, gan gynnwys dau achos o dreisio, dau achos o gamgarcharu, bygwth ag arf ymosodol, tagu yn fwriadol a rhannu llun o berson mewn sefyllfa o natur bersonol gyda'r bwriad o achosi braw, gofid neu gywilydd. Plediodd yn euog i rannu'r llun ond yn ddieuog i bob trosedd arall.
Ar 24 Hydref, fe'i cafwyd yn euog o bob cyhuddiad yn dilyn treial yn Llys y Goron Caerdydd, ac ar 26 Tachwedd, cafodd ei garcharu am gyfanswm o 15 mlynedd ond cafodd ddedfryd estynedig o 18 mlynedd o ganlyniad i natur ei droseddau.
Mewn datganiad am yr effaith arni, dywedodd y ddioddefwraig:
"Bob dydd rwy'n crio ac rwy wedi cael digon. Dwi i ddim yn adnabod fy hun erbyn hyn ac mae'n rhwystredig iawn ei fod wedi gallu cael cymaint o effaith ar fy mywyd. Mae rhan ohono i sydd ddim am iddo wybod am y dylanwad negyddol a gafodd – fe fydd yn teimlo'n hunanfoddhaol am y peth. Ond eto pam na ddylwn i ddweud fy nweud. Drwy beidio â sôn am sut mae wedi effeithio arna i, rwy'n gadael i'w ymddygiad barhau."
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Sophia Jackson-Johns:
"Mae Kenneth Crane yn unigolyn anfoesol ac mae'r ffordd y triniodd ei ddioddefwraig yn yr achos hwn yn erchyll. Bydd yn treulio'r Nadolig hwn a sawl un arall dan glo sef y lle priodol iddo. Mae ei ddioddefwraig, ar y llaw arall, bellach yn rhydd rhag cam-drin ac rwy wir yn gobeithio y bydd yn gallu symud ymlaen o'r hyn sydd wedi bod yn brofiad erchyll. Byddwn yn sicrhau ei bod yn cael yr holl gymorth sydd ei angen arni i wneud hynny.”