Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Gaerdydd wedi cael ei garcharu am redeg sgam buddsoddi cryptoarian ar y cyfryngau cymdeithasol, gan dwyllo 17 o ddioddefwyr hysbys a dwyn dros £124,000 ganddynt.
Cafodd Haroon Zaman, o Grangetown, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Reading ddydd Mercher, yn dilyn gwaith ymchwilio agos rhwng Heddlu De Cymru ac Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol De-ddwyrain Lloegr.

Cafodd Zaman, 23 oed, o Holmesdale Street, ei ddedfrydu i dair blynedd ac wyth mis yn y carchar am 17 o achosion o dwyll drwy ymhoniad anwir.
Rhwng mis Ionawr 2021 a mis Mehefin 2023, bu Zaman yn hacio cyfrifon cyfyngau cymdeithasol dioddefwyr ac yn eu dynwared ar-lein. Yna roedd yn defnyddio'r cyfrifon hyn i hyrwyddo ‘cyfleoedd buddsoddi’ cryptoarian twyllodrus.
Roedd dioddefwyr yn cael eu perswadio i drosglwyddo arian drwy addo adenillion heb risg iddynt. Fodd bynnag, nid oedd y buddsoddiadau yn bodoli, a gwnaeth Zaman ddwyn cyfanswm o £124,479.
Dywedodd y swyddog ymchwilio, DC Alex Sarakinis, o Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol De-ddwyrain Lloegr, fod Zaman wedi dangos “nad oedd yn poeni dim am y niwed” yr oedd wedi'i achosi, gan ychwanegu:
“Drwy feddiannu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, twyllodd bobl i gredu eu bod yn buddsoddi'n ddiogel, ond mewn gwirionedd roedd yn dwyn eu harian.
“Diolch i'n partneriaeth agos â Heddlu De Cymru, gwnaethom lwyddo i ddatgelu graddfa ei droseddu a sicrhau ei fod bellach wedi cael ei ddwyn o flaen y llysoedd.”