Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Mae Swyddogion Plismona yn y Gymdogaeth yng nghanol tref Castell-nedd wedi tarfu ar ymgyrch ganabis sylweddol, a allai fod wedi tyfu i fod yr un "mwyaf erioed" o'i bath yn Ne Cymru.
Digwyddodd yr ymgyrch o ganlyniad i gudd-wybodaeth a gasglwyd gan y Tîm Plismona yn y Gymdogaeth. Rhoddwyd gwybod am weithgarwch amheus o amgylch yr hen siop Marks and Spencer's ar Stryd y Maes, a oedd wedi bod yn wag ers i M&S gau ar 18 Mai 2024.
Pan oedd y swyddogion ar batrôl, gwnaethant sylwi ar ddyn 34 oed yn ymddwyn yn amheus a'i stopio, a chafodd ei arestio'n fuan ar ôl hynny ar amheuaeth o fwrgleriaeth.


Gwnaeth swyddogion, ynghyd ag adnoddau arbenigol, gynnal chwiliad o'r adeilad, a daethant o hyd i nifer o ystafelloedd masnachol mawr yr oedd yn ymddangos eu bod yn y camau cynnar o gael eu trosi'n unedau tyfu canabis. Nid oedd canabis na sylweddau a reolir yn bresennol am fod swyddogion wedi tarfu'n gynnar yn y cam paratoadol.
Cafodd y dyn ei arestio'n ddiweddarach ar amheuaeth o ymwneud â chynhyrchu canabis. Mae yn nalfa'r heddlu o hyd.


Dywedodd yr Arolygydd Ryan Davies:
"Roedd y canlyniad hwn yn bosibl diolch i waith partneriaeth gwych rhwng y Tîm Plismona yn y Gymdogaeth, cudd-wybodaeth gan y gymuned leol a chefnogaeth gan bartneriaid awdurdod lleol.
"Roedd angen dull dynamig ar gyfer yr ymchwiliad yn ystod y cyfnod prysuraf yng nghanol y dref. Arweiniodd at swyddogion yn tarfu a rhoi diwedd ar yr hyn a allai fod wedi datblygu i fod yn ffatri canabis ar raddfa ddiwydiannol, gwerth miliynau o bunnoedd mewn troseddau.
"Gallai troseddau ar y raddfa hon fod wedi cael effaith sylweddol ar y gymuned leol, ac mae'n aml yn camfanteisio ar bobl ifanc neu bobl sy'n agored i niwed i gymryd y risg, tra bod eraill yn cael y buddiannau.
“Hoffwn ddiolch i drigolion Castell-nedd am eu cymorth a'u cydweithrediad yn ystod gweithgarwch yr heddlu yn ardal brysur canol y dref. Rwy'n annog unrhyw un sydd â phryderon yn eu cymuned leol i roi gwybod i'ch Tîm Plismona yn y Gymdogaeth lleol fel y gallant weithredu."

Oes gennych ragor o wybodaeth am y digwyddiad hwn? Cysylltwch drwy 101, gan ddyfynnu 2500391916.
I roi gwybodaeth yn ddienw, cysylltwch â Crimestoppers ar 0800 555 111 neu drwy'r ddolen hon https://crimestoppers-uk.org/give-information/forms/pre-form