Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd Christopher Smith, 52 oed o Ben-lan, ei ganfod â chocên yn ei feddiant yn 2022, ac ym mis Mawrth eleni, cafodd ei ganfod â heroin yn ei feddiant.
Ar 21 Gorffennaf, newidiodd Smith ei ble i'r cyhuddiad o fod â chocên yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi, o ddieuog i euog.
Plediodd yn euog i fod â heroin yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi ym mis Ebrill, ar ôl pledio'n euog yn flaenorol i fod â chanabis ac arf ymosodol yn ei feddiant – sef dwrn haearn – mewn man cyhoeddus.
Mae wedi cael cyfanswm dedfryd o saith mlynedd a chwe mis yn y carchar.
Yn y cyfamser, mae Magda Osinska, 30 oed o Ben-lan, wedi cael dedfryd ohiriedig o 22 mis wedi'i gohirio am ddwy flynedd ar ôl iddi hefyd bledio'n euog i fod â chocên yn ei meddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi.
Dywedodd Cwnstabl yr Heddlu Jonathan Ryan:
“Roedd Christopher Smith a Magda Osinska yn amlwg yn ymwneud â dosbarthu cyffuriau Dosbarth A a B ar strydoedd ein cymunedau, a hynny er budd ariannol yn unig.
"Nid oeddent yn poeni am y niwed y byddai'r cyffuriau hyn yn ei wneud i'r cymunedau a'r rhai a fyddai'n eu cymryd. Maent yn haeddu eu cyfnod yn y carchar.”