Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a menyw o Abertawe wedi cael eu carcharu ar ôl cael eu dal yn delio cyffuriau Dosbarth A.
Roedd Sion Harrison, 27 oed, a Kelly Hopkins, 35 oed, y ddau o Sandfields, Abertawe, mewn cerbyd pan welodd swyddogion ddefnyddwyr cyffuriau hysbys yn mynd tuag atynt ar Tontine Street.
Pan gafodd ei chwilio, daethpwyd o hyd i bedwar rholyn o heroin ym mhoced Hopkins. Daethpwyd o hyd i grac cocên posibl yn y drws ar ochr y gyrrwr. Canfuwyd ffôn symudol hefyd, a datgelodd ymchwiliad fod Harrison a Hopkins wedi bod yn ei ddefnyddio i drefnu i ddelio cyffuriau drwy negeseuon testun a Facebook Messenger.
Plediodd Harrison yn euog i ymwneud â chyflenwi cocên a chrac cocên. Mae wedi cael ei ddedfrydu i 45 mis yn y carchar.
Plediodd Hopkins yn euog i ymwneud â chyflenwi heroin, cocên, crac cocên a chetamin, yn ogystal â bod â chrac cocên a heroin yn ei meddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi. Mae wedi cael ei dedfrydu i 40 mis yn y carchar.
Dywedodd y Rhingyll Luke Tucker:
“Dewisodd Sion Harrison a Kelly Hopkins ymwneud â delio mewn cyffuriau Dosbarth A fel ffordd o elwa'n ariannol yn anghyfreithlon.
“Mae eu pledion euog a'u dedfrydau yn dangos nad oedd yr hwb ariannol dros dro yn werth chweil. Mae'r cyffuriau Dosbarth A hyn yn cael effaith ddifrifol ar y gymuned leol – a bydd carcharu'r ddau ddeliwr cyffuriau hyn yn sicrhau bod y gymuned yn fwy diogel.”