Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu am ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth A.
Cafodd Liam Bell, 31 oed o Waunarlwydd, ei arestio yn ystod gwarant ar 2 Hydref, cyn y daethpwyd o hyd i nifer o fagiau snap â gweddillion gwyn, clorian, llafn cymysgu a mwy o baraffernalia sy'n gysylltiedig â delio mewn cyffuriau yn ystod chwiliad Adran 18 o'i gyfeiriad.
Plediodd Bell yn euog i fod â chocên yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi ac ymwneud â chyflenwi cocên yn Llys Ynadon Abertawe ym mis Hydref.
Cafodd ei ddedfrydu i dair blynedd ac wyth mis yn y carchar.
Dywedodd Cwnstabl yr Heddlu Morris o Dîm Troseddau Cyfundrefnol Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot:
“Mae'n amlwg nad yw Liam Bell wedi dysgu ei wers ar ôl ei euogfarn flaenorol am droseddau yn ymwneud â chyffuriau.
“Dylai fod wedi achub ar y cyfle i adael y fasnach gyffuriau a throi tudalen newydd yn ei fywyd. Ond, dewisodd beidio â gwneud hynny ac mae bellach yn talu'r pris eto.
“Dylai unrhyw un sy'n ymwneud â chynhyrchu a chyflenwi cyffuriau Dosbarth A wybod nad yw'r fasnach anghyfreithlon hon yn talu. Bydd yr hyn rydych yn credu y bydd yn gwneud arian hawdd i chi yn eich arwain at y carchar yn lle hynny.”
Mae mynd i'r afael â throseddau cyfundrefnol yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru a byddwn yn parhau i fynd ati'n ddiflino i fynd ar ôl troseddwyr er mwyn diogelu ein cymunedau rhag niwed.
Os byddwch yn amau bod rhywun yn delio cyffuriau neu'n poeni bod person ifanc neu blentyn neu oedolyn sy'n agored i niwed wedi cael ei dargedu gan grŵp troseddau cyfundrefnol, rhowch wybod i ni. Nid oes angen i chi fod yn bendant, dim ond yn bryderus.
Ffoniwch ni ar 101, neu gallwch gysylltu â Crimestoppers i roi gwybod yn ddienw os byddai'n well gennych wneud hynny – ar-lein neu drwy ffonio 0800 555 111. Os bydd rhywun mewn perygl uniongyrchol neu os bydd trosedd yn mynd rhagddi, dylech ffonio 999 bob amser.