Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Diweddariad: Mae'r dyn 51 oed a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â'r achos wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau pellach fynd rhagddynt.
***
Gallwn gadarnhau bod dioddefwr ymosodiad yn Cathays, Caerdydd wedi marw yn yr ysbyty.
Cafodd yr heddlu eu galw i adroddiad am ymosodiad ar Stryd Pentyrch tua 6.15pm nos Iau, 22 Rhagfyr.
Bu farw'r dioddefwr, Colm Marcus Boston, 37 oed o'r Mynydd Bychan ddoe (26 Rhagfyr) yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd. Mae ei deulu yn cael ei gefnogi gan Swyddog Cyswllt Teuluol.
Mae tri dyn wedi cael eu harestio fel rhan o'r ymchwiliad:
Mae dyn 51 oed o Fynachdy yn y ddalfa o hyd.
Mae dyn 47 oed o Adamsdown a dyn 60 oed o Cathays wedi'u rhyddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau pellach fynd rhagddynt.
Dywedodd Dirprwy Uwch-swyddog yr Ymchwiliad, y Ditectif Arolygydd Lauren Wells o Heddlu De Cymru: “Rydym yn cydymdeimlo'n ddiffuant â theulu a ffrindiau Colm wrth iddynt ddod i delerau â'u colled drasig.
“Hoffwn ddiolch i'r gymuned am y cymorth maent wedi'i ddarparu i'r ymchwiliad hwn hyd yma ac yn parhau i annog unrhyw sydd â gwybodaeth ac sydd heb siarad â swyddogion eto i ddod gerbron.”
Mae'r swyddogion yn awyddus i gael deunydd fideo teledu cylch cyfyng a chamera dashfwrdd o Heol Maendy, Stryd Pentyrch, Heol yr Eglwys Newydd a Theras Cathays, rhwng 4pm a 6.30pm brynhawn dydd Llun, 22 Rhagfyr. Gellir cyflwyno deunydd fideo a gwybodaeth ar-lein https://mipp.police.uk/operation/62SWP25C25-PO1
Fel arall, cysylltwch â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu 2500404113. Cysylltwch â ni ar-lein drwy https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.