Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae pobl yn dweud nad ydych chi byth oddi ar ddyletswydd go iawn fel gweithiwr gwasanaeth brys – a dangosodd un o'n swyddogion hynny pan ddilynodd ei reddf gan arwain at arestio dau unigolyn yr oedd yr heddlu yn chwilio amdanynt am droseddau difrifol.
Roedd PC Owain ap Gwyn, o'n hadran Ymgyrchoedd Arbenigol, yn gyrru yn Ystradgynlais yn ardal Heddlu Dyfed-Powys wythnos diwethaf, pan sylwodd ar ddau ddyn yn mynd â chi am dro.
Gan amau efallai fod y ci wedi cael ei ddwyn, stopiodd PC ap Gwyn ac aeth at y dynion.
Roeddent wedi digio pan gawsant eu herio, a gwnaethant ffoi ar ôl ymdrin â'r swyddog mewn ffordd ymosodol. Aeth ar eu hôl a chysylltu â'r heddlu ar yr un pryd.
Yn ddiarwybod i'r swyddog, roedd swyddogion arfau tanio eisoes yn yr ardal yn cynnal ymholiadau i arestio'r dynion ac, wrth iddynt adael ardal goediog i gyfeiriad prif ffordd, roedd swyddogion yn y fan a'r lle ac yn barod i'w harestio.
Cafodd y ddau eu harestio wedi hynny mewn cysylltiad â camgarcharu, ac ymosodiad adran 18.
Daeth i'r amlwg hefyd fod y ci wedi cael ei ddwyn, fel yr oedd PC ap Gwyn wedi'i amau.
Gan adalw'r digwyddiad, dywedodd:
“Roeddwn i'n gyrru a sylwais ar ddau ddyn yn cerdded gyda'r ci ac roeddwn yn teimlo bod rhywbeth o'i le.
“Roedd y tennyn yn edrych fel rhywbeth dros dro ac, fel perchennog ci a rhywun sy'n caru cŵn, nid oedd yn teimlo'n iawn, felly mi wnes i stopio.
“Roeddent yn cerdded ar hyd y llwybr tua'r coetir, a gofynnais iddynt yn blwmp ac yn blaen a oeddent wedi dwyn y ci. Ond gwnaethant barhau i gerdded yn gyflymach ac roedd yn amlwg eu bod am gael gwared arnaf i, felly cerddais yn gyflymach a daeth yr un gyda'r ci ataf yn ymosodol iawn gyda rhywbeth yn ei law. Felly, dywedais wrtho fy mod i'n swyddog yr heddlu oddi ar ddyletswydd a fy mod am ffonio am gymorth.
“Dyna pryd y gwnaethant ddechrau rhedeg, felly rhedais ar ôl yr un a oedd yn dal y ci tra roeddwn ar y ffôn gyda'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus. Rhedais ar ei ôl am tua phum munud, a gwnes i ei ddal wrth iddo fynd allan i'r ffordd, a dyma pryd y gwelais y swyddogion arfau tanio.”
Cafodd un dyn ei arestio yn y fan a'r lle, a chafodd y llall ei arestio gerllaw, a gallai'r swyddog helpu i adnabod yr unigolion dan amheuaeth wedyn, a dim ond bryd hynny y dysgodd am ddifrifoldeb y troseddau a pham roedd yr heddlu yn chwilio amdanynt.
“Nid oedd gennyf unrhyw syniad bod yr heddlu yn chwilio amdanynt pan wnes i stopio'r car, heb sôn am y rhesymau dros hynny.
“Fy mhryder am y ci wnaeth wneud i mi stopio'r car. Roedd gennyf deimlad ei fod wedi cael ei ddwyn ac roedd yn rhaid i mi wneud y peth cywir a stopio.
“Rwy'n falch fy mod yn y lle cywir ar yr adeg gywir, a fy mod wedi gallu helpu ein cydweithwyr cyfagos i ddal dau unigolyn yr oedd yr heddlu yn chwilio amdanynt am droseddau treisgar difrifol. Ac wrth gwrs, gwneud yn siŵr bod y ci yn iawn hefyd!”