Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae cwpl priod yn eu hugeiniau wedi cael eu carcharu am sawl achos o gyflenwi cyffuriau Dosbarth A, yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu De Cymru.
Plediodd Curtis Price, sy'n 29 oed o Aberdâr, a Sarah Price, sy'n 25 oed a hefyd o Aberdâr, yn euog i gyflenwi cocên, crac cocên a heroin a bod ag eiddo troseddol yn eu meddiant, pan wnaethant ymddangos gerbron Llys Ynadon Merthyr Tudful am y tro cyntaf ddydd Gwener 16 Mai, 2025.
Cawsant eu dedfrydu heddiw (ddydd Gwener, 13 Mehefin) i chwe blynedd a hanner yn y carchar rhyngddynt.
Roedd hyn yn dilyn digwyddiad ddydd Iau 15 Mai 2025, pan wnaeth swyddogion stopio'r cwpl mewn ystad ddiwydiannol leol lle canfuwyd eu bod yn storio ac yn paratoi Heroin, Cocên a Chrac Cocên i'w gwerthu.
Dedfrydwyd Curtis Price i dair blynedd a chwe mis yn y carchar yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Gwener, 13 Mehefin, 2025.
Dedfrydwyd Sarah Price i dair blynedd yn y carchar yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Gwener, 13 Mehefin, 2025.
Dywedodd Cwnstabl yr Heddlu Allcock:
“Mae gennym batrolau rhagweithiol ledled De Cymru bob dydd sy'n cadw golwg am weithgarwch troseddol fel hyn. Rwy'n falch o weld y ddedfryd hon a roddwyd iddynt, ac rwy'n gobeithio y bydd yn rhoi amser iddynt fyfyrio ar eu gweithredoedd.”
Mae cyffuriau yn cael effaith enfawr ar ein cymunedau, ac rydym yn falch o gael gwared ar y rhain o'n strydoedd.”