Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Caiff y cynllun ildio ac iawndal cenedlaethol ei gynnal rhwng 1 a 31 Gorffennaf, cyn i gleddyfau ninja gael eu gwahardd o 1 Awst 2025. Bydd hyn yn ei gwneud yn anghyfreithlon i rywun fod â'r arfau angheuol hyn yn ei feddiant, eu cynhyrchu, a'u mewnforio.
Anogir y cyhoedd i gyflwyno'r arfau hyn yn ddiogel yn un o'r gorsafoedd heddlu canlynol:
Dod o hyd i orsaf heddlu | Heddlu De Cymru
Yn ystod y cyfnod ildio, rhwng 1 a 31 Gorffennaf, gall y rhai sy'n ildio cleddyfau ninja aros yn ddienw heblaw eu bod yn dymuno hawlio iawndal.
Dywedodd Donna Llewellyn, Uwch-arolygydd ac arweinydd troseddau cyllyll:
“Rydym yn deall y gall fod diffyg ymwybyddiaeth o gyfreithlondeb arfau gwahanol, neu ddiffyg dealltwriaeth o'r ffordd orau o gael gwared arnynt. Mae'r cynllun ildio yn cynnig ffordd ddiogel o ildio'r arfau hyn ac yn osgoi'r risg y byddant yn mynd i'r dwylo anghywir."
Gweler canllawiau'r Swyddfa Gartref ar ildio cleddyfau ninja a hawlio iawndal ynghyd â'r ffurflen iawndal a'r hysbysiad gwybodaeth am breifatrwydd yma.
Mae'r llywodraeth yn ystyried pob ffordd o ddiogelu pobl ifanc a mynd i'r afael â'r arfer o gario cyllyll fel rhan o'i Chynllun Newid. Mae'r genhadaeth i haneru troseddau cyllyll yn rhan o genhadaeth ar draws Whitehall i wneud y canlynol:
#DdimYrUn
Ymgyrch ymyrryd yn gynnar yw #DdimYrUn sydd â'r nod o ddarbwyllo pobl ifanc 11-16 oed i beidio â chario cyllyll. Mae'n pwysleisio na fydd cario cyllell yn eich cadw'n ddiogel. Yn wir, mae ystadegau'n dangos ei bod yn fwy tebygol y byddwch yn cael eich brifo.
Arweinir yr ymgyrch hon gan Heddlu De Cymru ac Uned Atal Trais Cymru, gyda chymorth cyllid gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru. Mae'n seiliedig ar gyngor gan blant, pobl ifanc, gweithwyr proffesiynol ym maes addysg a gweithwyr ieuenctid yn Ne Cymru, a'u profiadau.