Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dyma'r gyrru di-hid sydd wedi arwain at ddyn o Fro Morgannwg gael ei wahardd o'r ffyrdd heddiw, ar ôl iddo yrru i mewn i gerbyd yr heddlu yn fwriadol er mwyn ceisio osgoi cael ei arestio.
Cafodd Daniel Overton, 27 oed o Aberogwr, arwydd i stopio gan swyddogion Plismona'r Ffyrdd ym maes parcio Tesco, y Barri, yn ystod oriau mân y bore ar 25 Mawrth.
Ni stopiodd Overton a gyrrodd i ffwrdd ar hyd Port Road ac ar yr A4226 Five Mile Lane, lle gyrrodd ar gyflymder o tua 100mph.
Ar ôl brecio'n galed a dechrau gyrru am yn ôl tuag at y swyddogion a oedd yn ei ddilyn, gwnaeth Overton dro pedol a gyrrodd ar gyflymder tuag at Faes Awyr Caerdydd.
Tra roedd yr heddlu yn ei ddilyn, roedd Overton wedi anwybyddu goleuadau traffig, wedi mynd y ffordd anghywir o gwmpas cylchfannau, ac wedi brecio yn galed er mwyn gyrru am yn ôl tuag at gerbydau'r heddlu.
Wrth iddo yrru'n gyflym ar lôn tuag at Ben-marc, arafodd Overton unwaith eto i leihau'r pellter rhyngddo ef a'r cerbyd a oedd yn ei ddilyn, cyn gyrru am yn ôl i mewn iddo'n fwriadol ar gyflymder.
Gyrrodd i ffwrdd eto ond eiliadau yn ddiweddarach, gyrrodd y swyddogion rownd y gornel i weld bod yr unigolyn dan amheuaeth wedi gyrru i mewn i lwyn.
Cafodd ei arestio'n gyflym ar amheuaeth o nifer o droseddau.
Ymddangosodd Overton gerbron Llys Ynadon Caerdydd y diwrnod canlynol, lle plediodd yn euog i yrru'n beryglus, yfed a gyrru, methu â stopio i'r heddlu, gyrru heb yswiriant, a gyrru heb fod yn unol â thrwydded.
Heddiw cafodd ei ddedfrydu i 18 mis yn y carchar, wedi'i gohirio am 18 mis, a'i wahardd o yrru am 20 mis.
Dywedodd yr Arolygydd Gweithredol Arbenigol, Rob Blunt:
“Roedd gweithredoedd Overton y noson honno yn annealladwy, a gallai'r canlyniadau i'r cyhoedd, i'n swyddogion ac iddo ef ei hun fod wedi bod yn llawer mwy difrifol.
“Nid oedd yn poeni dim am unrhyw un arall, ac rwy'n falch o weld ei fod wedi cael ei wahardd rhag gyrru gan nad oes lle i'r math hwn o yrru ar ffyrdd De Cymru.
“Yn ffodus, dim ond mân anafiadau a gafodd y swyddog a oedd yn gyrru'r cerbyd a gafodd ei daro gan Overton. Fodd bynnag, cafodd y cerbyd ei ddifrodi'n sylweddol a chymerodd gryn amser i wneud y gwaith trwsio angenrheidiol.
“Mae gan ein Huned Plismona Ffyrdd yrwyr medrus iawn a fydd yn parhau i weithio'n ddiflino i addysgu gyrwyr, a gyda chymorth adnoddau arbenigol eraill fel cŵn, dronau a hofrenyddion, byddant yn mynd ar ôl pobl fel Overton, nad ydynt yn poeni dim am y ffyrdd na modurwyr eraill, ac yn eu dwyn i gyfrif."