Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Johnathan Newbury, o Bentwyn, Caerdydd, wedi cael ei garcharu am yrru car ar gyflymder i mewn i ddau ddyn yn fwriadol.
Digwyddodd hynny yn ardal Cathays, Caerdydd, ar 5 Gorffennaf 2024, yn dilyn dadl ar Bruce Street.
Plediodd Newbury yn ddieuog, ond yn dilyn treial ym mis Mawrth eleni, fe'i cafwyd yn euog o fod ag eitem lafnog yn ei feddiant ac achosi a cheisio achosi niwed corfforol difrifol.
Roedd y ddau ddioddefwr yn yr achos wedi digwydd trefnu llety yn yr un Airbnb â Newbury.
Bu anghytundeb rhyngddynt a arweiniodd at drais.
Cafodd Newbury ei weld yn dod allan o SUV tywyll gyda thri dyn arall, a oedd yn cario cyllell fawr, ac aethant ar ôl y dioddefwyr.
Aeth yn ôl i mewn i'r SUV a gyrrodd tuag at y dioddefwyr, sy'n 17 a 18 oed.
Dangosodd deunydd fideo teledu cylch cyfyng y cerbyd yn gyrru ar ochr anghywir Crwys Road ac yna'n gwrthdaro â'r dioddefwyr yn fwriadol wrth gyffordd Malefant Street, gan eu taflu i'r awyr ac achosi niwed corfforol difrifol i'r dioddefwr ieuengaf.
Cafodd Newbury, 33 oed, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Llun 16 Mehefin i wyth mlynedd yn y carchar a dwy flynedd ar drwydded estynedig. Ar ôl cael ei ryddhau, bydd yn cael ei wahardd rhag gyrru am ddwy flynedd.
Dywedodd y Ditectif Ringyll George Buckley: “Defnyddiodd Newbury drais eithriadol i ymosod ar y dioddefwyr, ac roedd yn ffodus nad oedd yr anafiadau yn fwy difrifol.
“Mae'r effaith gorfforol ac emosiynol ar y dioddefwyr wedi bod yn sylweddol. Rydym yn gobeithio y bydd y ddedfryd yn helpu'r dioddefwyr gyda'u hadferiad.
“Hoffem hefyd gydnabod cymorth y tystion yn yr achos hwn, gan fod eu tystiolaeth yn hanfodol i sicrhau cyfiawnder.”