Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Mae Heddlu De Cymru yn parhau â'i ymchwiliad i'r achos o saethu a ddigwyddodd yng Nghlos y Ffynnon, Pontprennau, Caerdydd, tua 8pm nos Sadwrn 7 Mehefin.
Mae swyddogion yn parhau i apelio am wybodaeth ac yn benodol yn apelio i fodurwyr a oedd yn gyrru yn yr ardal ar yr adeg hon.
Gofynnir i unrhyw un a deithiodd drwy Bontprennau neu Bentwyn, a allai fod wedi defnyddio Church Road neu'r A4232 (ffordd gyswllt Pentwyn) rhwng 7pm a 7.50pm nos Sadwrn 7 Mehefin gyflwyno ei ddeunydd camera dashfwrdd.
Cafodd bachgen, 15 oed, ei saethu ond nid yw ei anafiadau yn rhai sy'n peryglu bywyd nac yn newid bywyd.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Mark O'Shea o Heddlu De Cymru:
“Hoffwn roi sicrwydd i'r gymuned leol bod timau o dditectifs a staff arbenigol yn parhau i weithio'n gyflym i adnabod pwy oedd yn gyfrifol ac yn creu darlun o'r hyn a ddigwyddodd y noson honno. Dim ond mân anafiadau a gafodd y dioddefwr, ond gallai fod wedi bod yn llawer gwaeth. Gall y cyhoedd ein helpu i adnabod ac arestio pwy bynnag oedd yn gyfrifol – gallai unrhyw un a oedd yn gyrru drwy'r ardaloedd penodol ar yr adeg hon nos Sadwrn fod â thystiolaeth allweddol ar gamera dashfwrdd, felly anfonwch y deunydd aton ni er mwyn i ni edrych arno.”
Gellir cyflwyno gwybodaeth a deunydd fideo ar-lein yma:
https://mipp.police.uk/operation/62SWP25C11-PO1
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth hefyd gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu 2500180055.
Sgwrs Fyw: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
Cysylltwch â ni drwy: https://bit.ly/SWPProvideInfo
101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.