Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Llun dalfa'r heddlu o Mark Burnell.
Mae dyn o Gaerdydd a aeth ar sbri fwrgleriaethau yng ngogledd Caerdydd cyn iddo gael ei weld gan swyddogion ar batrôl wedi cael ei garcharu.
Cafodd Mark Burnell ei arestio gan swyddogion ar 6 Ionawr, 2025. Gwnaeth y swyddogion ei weld yn chwilota drwy fag plastig ar Gillian Road. Roeddent wedi penderfynu gyrru drwy'r ardal ar ôl gweld llun o Burnell yn cael ei rannu gan rywun ar Facebook – roedd Burnell wedi cael ei ddal ar gamera teledu cylch cyfyng tŷ yr oedd newydd geisio torri mewn iddo yn Highfields, Llandaf. Yn y fideo, gellir ei weld yn mynd at y drws ffrynt, cyn dychryn ar ôl sylweddoli bod y preswylydd gartref, a throi rownd ac esgus ei fod wedi mynd i'r tŷ anghywir.
Cafodd Burnell ei arestio yn dilyn cyfres o droseddau dros naw diwrnod. Ers 29 Rhagfyr, roedd wedi cyflawni tair bwrgleriaeth, wedi ceisio cyflawni tair bwrgleriaeth arall ac roedd wyth achos o dwyll yn ei erbyn am ddefnyddio cardiau banc yr oedd wedi'u dwyn i brynu amrywiaeth o eitemau fel persawr, colur a photel o wisgi a phryd o fwyd mewn bwyty Indiaidd lleol. Cafodd ei droseddau eu cyflawni yn ardal yr Eglwys Newydd, Rhiwbeina a Llandaf.
Prynodd werth cannoedd o bunnoedd o nwyddau gan ddefnyddio cardiau banc yr oedd wedi'u dwyn a gwnaeth ddwyn eitemau personol, yr oedd gan rai ohonynt werth personol arbennig, fel llun o ŵr diweddar un o'i ddioddefwyr, na ddaethpwyd o hyd iddo wedyn.
Plediodd Burnell yn euog i dri achos o fwrgleriaeth, tri achos o geisio cyflawni bwrgleriaeth a sawl achos o dwyll drwy ymhoniad anwir. Ymddangosodd gerbron Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth 17 Mehefin lle cafodd ei garcharu am bedair blynedd.
GWYLIWCH Mark Burnell yn mynd i fwyty Indiaidd gan ddefnyddio cardiau banc wedi'u dwyn.