Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a wnaeth gam-drin ei bartner os nad oedd yn ‘ufuddhau i'w reolau’ wedi cael ei garcharu.
Cafodd Mark Moon, sydd â 65 o euogfarnau blaenorol, ei garcharu am dair blynedd yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher, 18 Mehefin.
Gwnaeth ei ddioddefwr 47 oed ddioddef blynyddoedd o gamdriniaeth yn nwylo'r dyn 46 oed o Cemetery Road, Porth.
Ar 15 Chwefror, ychydig wythnosau'n unig ar ôl i dad ei ddioddefwr farw, dywedodd Moon wrthi nad oedd yn ‘gallu ymdopi â'i galar’ a'i fod am feddwi'n rhacs. Yn fuan wedi hynny, rhuthrodd i fyny at y dioddefwr mewn ystafell wely ac wrth iddi geisio dianc, fe'i gwthiodd i'r llawr, ac fe darodd ei phen ar soced mor galed nes y torrodd y soced. Er ei bod yn gwaedu ac yn benysgafn, ceisiodd godi ond ni wnaeth Moon roi'r gorau i ymosod arni. Ceisiodd merch y dioddefwr helpu ei mam, ond trodd yn dreisgar tuag ati hi.
Ar ôl y digwyddiad hwnnw, daeth y dioddefwr â'r berthynas i ben, ond tua chwe wythnos yn ddiweddarach, gwelodd ef hi mewn tafarn ym Mhontypridd ac eisteddodd wrth ei hymyl.
Ceisiodd y dioddefwr adael ond trodd Moon yn fygythiol, gan ddweud: “Ti'n dod adref gyda mi heno’. Gwrthododd ei ddioddefwr ofnus a gadawodd y dafarn. Cerddodd i'r orsaf drenau, ond dilynodd Moon hi ar y trên. Dywedodd wrthi ei fod am ei lladd ar ôl iddynt ddod oddi ar y trên. Wedi dychryn, gwnaeth y dioddefwr esgus ei bod angen mynd i'r toiled ac aeth at swyddog trên, a wnaeth ei hamddiffyn a gorfodi Moon i adael y trên yn y stop nesaf.
Pan gysylltodd y dioddefwr â'r heddlu, dywedodd wrth swyddogion ei bod wedi dioddef camdriniaeth gorfforol a rheolaethol ers dwy flynedd a'i bod yn byw mewn ofn bob dydd.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Camron Griffiths: “Roedd y dioddefwr yn yr achos hwn yn dychryn am ei bywyd – mae Moon yn fwli treisgar a wnaeth wneud i'r dioddefwr boeni ac ofni am ei bywyd. Ni ddylai neb orfod wynebu hynny.
“Rwy'n ei chanmol am y dewrder a ddangosodd i ddod â'r berthynas i ben a chysylltu â ni. Rydym wedi sicrhau ei bod yn cael y cymorth sydd ei angen arni ac rwy'n gobeithio y gall ddechrau ailadeiladu ei bywyd ac adfer nawr bod Mark Moon yn y carchar. Rydym wedi sicrhau ei bod yn cael y cymorth sydd ei angen arni i wneud hynny.
“Hoffwn hefyd ganmol dewrder a thosturi y swyddog trên y diwrnod hwnnw.
“Ni ddylai dioddefwyr camdriniaeth fyth orfod goddef. Mae'n aml yn anodd i ddioddefwyr weld ffordd allan, ond hoffwn roi sicrwydd i unrhyw un sy'n dioddef bod ffordd allan a bod bywyd gwell i ddod. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddod â chyflawnwyr camdriniaeth ddomestig gerbron y llysoedd a diogelu dioddefwyr.”