Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Menter Strydoedd Mwy Diogel yr Haf yn gweld cynnydd yn nifer y patrolau amlwg iawn ledled ardaloedd allweddol De Cymru
Bydd y broses o ddechrau'r Warant Plismona yn y Gymdogaeth (NPG) newydd yn gweld cynnydd mewn gweithgarwch er mwyn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghymunedau Heddlu De Cymru.
O 30 Mehefin 2025, fel rhan o Fenter Haf Strydoedd Mwy Diogel, bydd gweithgarwch gweithredol yn cynyddu drwy gydol yr haf mewn trefi, parciau ac ar dhraethau er mwyn sicrhau bod ein cymunedau yn teimlo'n ddiogel a'u bod yn cael eu parchu.
At hynny, yn unol â'r NPG, bydd gan bob cymuned swyddog penodol y gellir cysylltu ag ef ar gyfer ei hardal sy'n ei alluogi i gysylltu, ymgysylltu â'r timau lleol, a chael y wybodaeth ddiweddaraf am faterion a blaenoriaethau lleol.
Mae'r opsiwn hwn i gysylltu â swyddog yn cefnogi gwefan bresennol ‘De Cymru yn Gwrando’, sy'n galluogi'r cyhoedd i roi adborth ar yr hyn y mae Heddlu De Cymru yn ei wneud i ymdrin â materion lleol, awgrymu cyfleoedd am newid, a dod o hyd i gyngor ar atal troseddau.
Yn ogystal, erbyn diwedd yr haf, bydd 70 o Swyddogion Plismona yn y Gymdogaeth newydd ar strydoedd De Cymru er mwyn rhoi tawelwch meddwl amlwg iawn i'n cymunedau, gyda ffocws ar fynd i'r afael â throseddwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol mynych.
Y broses o ailddyrannu swyddogion i Dimau Plismona yn y Gymdogaeth yw canlyniad addewid Llywodraeth y DU i adfer plismona yn y gymdogaeth.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Joanna Maal:
“Mae'r hwb mewn gweithgarwch gweithredol ledled ein cymunedau yn rhan o'n hymrwymiad parhaus i sicrhau bod preswylwyr a busnesau yn teimlo'n ddiogel bob dydd.
“Rwy'n annog preswylwyr a busnesau yn gryf i roi o'u hamser i ymgyfarwyddo â'u cyswllt swyddog cymdogaeth, achub ar y cyfleoedd i ymgysylltu ag ef, a rhoi gwybodaeth hanfodol iddo er mwyn helpu i gadw cymunedau'n ddiogel.”