Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae un o brif swyddogion Heddlu De Cymru wedi'i gydnabod ag OBE yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin.
Mae Umar Hussain , prif swyddog cyllid yr heddlu, yn derbyn yr anrhydedd ar ôl bron i 18 mlynedd yn y rôl a gyrfa ymroddedig i wella plismona. Gweithiodd i Heddlu Gwent a Heddlu Swydd Lincoln yn flaenorol.
Mae wedi sôn am y sioc o gael ei gydnabod – yn ogystal â diolch i'w gydweithwyr am ei enwebu.
Mae Mr Hussain, y dyfarnwyd MBE iddo ddegawd yn ôl, wedi bod yn allweddol i ffocws Heddlu De Cymru ar foderneiddio sawl agwedd ar ei waith, yn cynnwys technoleg symudol ac adnabod wynebau. Yn ogystal, mae wedi arwain prosiectau i rannu adnoddau gyda sefydliadau partner, gan gynnwys canolfan hyfforddi arfau tanio y tri heddlu a rennir gyda Heddlu Gwent a Heddlu Dyfed-Powys, a chyd-ystafell reoli'r heddlu a thân ym Mhencadlys Heddlu De Cymru.
Mae Mr Hussain, a sefydlodd Ystadau Cymru (Ystadau Sector Cyhoeddus Cymru), wedi bod yn llywodraethwr ac yn gadeirydd pwyllgor archwilio Prifysgol Metropolitan Caerdydd, mae'n aelod o bwyllgor cyllid Cyngor Cenedlaethol Prif Gwnstabliaid yr Heddlu ac yn gadeirydd Bwrdd Caffael Cymru Gyfan.
Fel un o'r aelodau a sefydlodd Gymdeithas Heddlu Du De Cymru, mentor cenedlaethol i brif swyddogion, sylfaenydd prosesau caffael moesegol ym maes Plismona yng Nghymru, a chefnogwr cydweithwyr ar draws y sector, mae hefyd wedi gweithio'n ddiflino i gefnogi swyddogion a staff sy'n cael eu tangynrychioli i oresgyn unrhyw rwystrau y gallant eu hwynebu.
Gan fyfyrio ar gael ei gynnwys yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin ddegawd ar ôl derbyn MBE, dywedodd:
“Roedd wir yn syndod 10 mlynedd yn ôl, am nad oedd gennyf unrhyw ddisgwyliadau bryd hynny – pwy fyddai'n disgwyl? – cael MBE. Felly, gallwch ddychmygu'r sioc 10 mlynedd yn ddiweddarach.
“Roeddwn yn teimlo'n eithriadol o ddiolchgar ac yn teimlo parch mawr at y cydweithwyr a wnaeth fy enwebu ac i'r Pwyllgor Anrhydeddau am eu hystyriaeth a'u cefnogaeth.
“Wrth imi gyrraedd 30 o flynyddoedd o wasanaeth cyhoeddus i'r heddlu, gwn yn rhy dda faint o help a chymorth rydw i wedi'i gael gan Dîm HDC i ymgymryd â'r rôl hon, ac rwy'n hynod ddiolchgar a byddaf wastad yn hynod ddiolchgar am hyn.
“Rwy'n teimlo bod yr anrhydedd hwn ar eu cyfer nhw hefyd – ac yn hynny o beth, rwy'n hapus i'w dderbyn ar ran y tîm!”
Dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan:
“Rwyf wrth fy modd fod Umar wedi'i gydnabod – mae'n llawn haeddu'r anrhydedd, ac mae'n adlewyrchu'r ymrwymiad a'r ymroddiad anhygoel y mae wedi'u dangos.
“Ar lefel bersonol, mae Umar yn ffrind ac yn gydweithiwr annwyl iawn, ac rwyf wedi elwa'n fawr ar ei gefnogaetha'i ddoethineb. Gwn y bydd sawl un arall yn ategu hynny.
“Rwyf hefyd wedi gweld â'm llygaid fy hun, ac yn hynod ddiolchgar am ba mor galed y mae wedi gweithio i gymell cynhyrchiant ac effeithlonrwydd – mae hyn oll wedi gwneud cyfraniad enfawr i wella'r gwasanaeth a ddarparwn i gymunedau De Cymru.”